Abstract
Cyflwynir yn yr ymchwil hwn bum awr ac ugain munud o raglenni dogfen affilmiwyd ar fformat clirder uchel ac a gafodd eu darlledu yn ystod 2006 - 2008,
ynghyd a rhagymadrodd sy'n trafod hanfodion y ffilm ddogfen. Ceir hefyd
gofnodiad o darddiad, datblygiad a dylanwad y ffilm ddogfen gyda gwerthusiad o ddylanwad yr arloeswyr cynnar. Yn ogystal, cyflwynir gwerthusiad o rol,
dyletswydd a dylanwad y cyfarwyddwr fel storrwr a hanesydd, gan gyflwyno nofel fer 40,000 o eiriau, 185 tudalen, a gafodd ei chyhoeddi ym 2008, ac sydd yn
ffurfio rhan o'r gwaith ymchwil. Cafodd y thesis ei ysgrifennu law yn llaw wrth
gyfarwyddo'r rhaglenni dogfen, Yn y rhan gyntaf ceir rhagymadrodd, sy'n adrodd hanes yr ysgogiadau hynny a oedd yn fan cychwyn y rhaglenni dogfen, eu cynnwys a beth oedd y bwriad fel cyfarwyddwr wrth fynd ati i'w cynhyrchu. Felly hefyd y nofel gyfoes sydd wedi cael ei lleoli ym Mhacistan ac yn Affganistan yn ystod y rhyfel presennol. Fe gyflwynir trafodaeth am gefndir hanesyddol y ffilm ddogfen ac archwiliad o'i sefyllfa bresennol. Bydd pob rhaglen yn unigol yn cael ei thrafod ynghyd a dadansoddiad o'r gwaith creadigol a'r dylanwadau arnynt. Fe geir dadansoddiad beirniadol o'r gwaith creadigol gan archwilio'r amryw ffyrdd y gall stor"iwr, boed yn nofelydd sy'n ymdrin gyda ffuglen, neu yn gyfarwyddwr ffilmiau dogfen ffeithiol, ddylanwadu, neu gyfeirio a lliwio profiad y darllenydd neu'r gwyliwr.
| Date of Award | 2009 |
|---|---|
| Original language | English |
| Awarding Institution |
|
| Supervisor | Jerry Hunter (Supervisor) |
Cite this
- Standard