Skip to main navigation Skip to search Skip to main content

Persona Dramatig y Bardd Llys

  • Gwilym Morus

Student thesis: Doctor of Philosophy

Abstract

Yn y rhagymadrodd ceir cipolwg ar gefndir astudiaethau Indo-Ewropeaidd, gan leoli'r bardd Cymreig yn nhraddodiad ehangach y diwylliannau hynny, a nodi dylanwad Georges Dumézil ar y maes. Ystyrir wedyn natur strwythurol y maes a'r cyfyngiadau sy'n gynhenid i strwythuraeth fel dull ymholiadol. Gan droi at Ffenomenoleg fel sylfaen athronyddol, ailddehonglir natur symbolau a'r modd maent yn weithredol mewn cyd-destunau defodol, gan obeithio negyddu mannau gwan strwythuraeth wrth gadw ei gryfderau.
Ym mhenodau 1, 2, 3 a 4, edrychir ar dwf y traddodiad barddol Canoloesol o'i
gychwyn yng ngweithiau'r Cynfeirdd hyd at y Gogynfeirdd. Gan fanylu ar destun Y Gododdin a damcaniaethau diweddar ynglŷn â'i natur gyfansawdd fel cynnyrch ysgol farddolyn hytrach na gwaith un bardd, dehonglir perfformiadau barddol canoloesol fel perfformiadau dramatig. Olrheinir dylanwad Ysgol Aneirin ar waith Cynddelw Brydydd Mawr, gan geisio dyfalu dylanwad arddulliau perfformio ar y cyd ag arddulliau llenyddol. Dehonglir agweddau ar bersona defodol y bardd canoloesol fel ffigwr cyhoeddus. Ymhellach, gwelir yr un dylanwad yng ngwaith Prydydd y Moch. Ystyrir dadl Marged Haycock dros
uniaethu Prydydd y Moch gydag awdur rhai o gerddi Llyfr Taliesin fel tystiolaeth fod beirdd canoloesol yn mabwysiadu cymeriadau dramatig chwedlonol er mwyn ehangu ar eu persona cyhoeddus.
Ym mhenodau 5 a 6 ystyrir traddodiadau brodorol eraill sy'n cynnwys elfen gref o
ddrama. Er mwyn gochel y posibilrwydd o weld tebygrwydd rhwng traddodiadau o ganlyniad eu bod yn rhannu'r un gwreiddiau diwylliannol, ystyrir traddodiadau sy'n debyg iawn o fod yn annibynnol ar draddodiadau barddoniaeth Ewrop, sef traddodiad dramatig perfformwyr cysegredig llwythi brodorol Gogledd America, a beirdd mawl llwythi Bantu De Affrica. Drwy gymharu'r traddodiad barddol canoloesol gyda'r diwylliannau eraill hyn, dadlennir patrymau cymdeithasol sydd efallai'n gyffredin i ddynoliaeth gyfan, sef y defnydd o ddefodaeth gyhoeddus fel dull o ategu bywyd cymunedol llwyth. Defnyddir model yr
anthropolegydd Victor Turner er mwyn awgrymu strwythurau cymdeithasol cyffredinol y traddodiadau hyn.
Date of Award2012
Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Bangor University

Cite this

'