Abstract
Bwriad y traethawd hwn yw asesu i ba raddau y mae cynnyrch awduresau o Gymry Cymraeg yn adlewyrchu'r Gymraes gyfoes ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain.Gan ganolbwyntio ar gyfrolau gan awduron benywaidd, mae'r traethawd hwn yn edrych yn benodol ar gynnyrch buddugol dwy brifwobr rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod y cyfnod 1991-2008 a phwyso a mesur y cyfrolau hynny ochr yn ochr a rhai nofelau eraill sydd wedi eu cyhoeddi gan awduron benywaidd. Caiffy nofelau hefyd eu cloriannu yng ngoleuni rhai cyfrolau Saesneg eu hiaith o Gymru, o Brydain, a thu hwnt.
Mae'r gwaith yn edrych ar ba genres sydd yn cael eu cynrychioli a pha themau sy'n dod i'r amlwg. Rhennir y cyfrolau yn grwpiau bychain i'w hastudio a cheisir asesu pa mor berthnasol ydyw'r cyfrolau i fywydau pob dydd merched Cymru heddiw. Be sy'n mynd a bryd awduron benywaidd Cymru ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain? Ac ai'r un pynciau sy'n mynd a bryd awduresau benywaidd y tu allan i Gymru?
Ystyrir perthnasedd a phwysigrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y byd llenyddol Cymraeg ac yn arbennig ceisir dadansoddi dylanwad y feirniadaeth eisteddfodol ynghyd a'r gynulleidfa eisteddfodol.
Edrychir ar gymunedau llenyddol, hen a newydd, a cheisir canfod a yw'r rhain yn lloches ynteu'n llyffethair i lenor.
Yn benodol, gwneir ymdrech i ddarganfod a yw holl ferched Cymru yn cael eu darlunio yn y cyfrolau buddugo~ ynteu portread o griw dethol yn unig a geir.
| Date of Award | 2011 |
|---|---|
| Original language | Welsh |
| Awarding Institution |
|
| Supervisor | Jerry Hunter (Supervisor) |