Skip to main navigation Skip to search Skip to main content

Tair drama a rhagymadrodd

  • William R. Lewis

    Student thesis: Doctor of Philosophy

    Abstract

    Mae'r gwaith hwn - tair drama ynghyd â thrafadaethau dadansoddol arnynt -
    yn ymwneud ag argyfyngau unigolion wyneb yn wyneb â byd modern sy'n prysur
    newid o'u cwmpas. Yn Ymylau Byd mae dau hen gyfaill coleg yn ceisio osgoi
    gwacter a diffrwythdra'u bywydau drwy ddwyn i gof y gorffennol ond wrth wneud hyn agorir hen greithiau creulon. Yn Golff y mae'r prif gymeriad yn
    argyhoeddedig nad oes dimensiwn ysbrydol i fywyd dyn ac o'r herwydd cofleidia
    fateroliaeth ddidostur a dinistriol. Yn Ffrwd Ceinwen mae genetegydd yn gwrthod derbyn fod bywyd ar drugaredd mympwy genynnau sy'n caethiwo dyn;
    mae'n chwilio am weledigaeth amgenach o fywyd.
    Er i Ymylau Byd gael ei chyflwyno ar deledu, drama lwyfan ydyw, ac fel hynny y cyflwynir hi yma; y cyfan a wnaethpwyd yn y cynhyrchiad teledu oedd ychwanegu ychydig olygfeydd byrion ar ffilm i danlinellu lleoliad daearyddol y
    ddrama.
    Mae testunau terfynol Golff a Ffrwd Ceinwen a berffarmiwyd gan Gwmni Theatr Gwynedd yn ffrwyth ymarferiadau gydag actorion a chyfarwyddwr. Buan y sylweddolwyd mai'r hyn a fyn actor gan ddramodydd yw arweiniad clir ynglyn
    â sut i ddehongli emosiynau cymeriad mewn golygfa arbennig: myn wybod beth
    sy'n cymell y geiriau a leferir. Cadwyd hyn mewn cof wrth baratoi'r trafadaethau dadansoddol ar y dramâu. Ceisiwyd bod mor annhechnegol ag oedd bosibl yn y gobaith y byddent o fudd ymarferol i'r sawl â ddymunai berfformio'r dramau hyn yn y dyfodol. Fel y ceisir egluro maes o law, y mae ieithwedd ymarferion theatraidd yn wahanol i ieithwedd beirniadaeth lenyddol gyfoes.
    Ni cheir, ac eithrio ar adegau prin, gyfle mewn ymarferion i wir drafad mewn
    dyfnder gefndir syniadol dramâu. Ffrwyth teimlad ar ran y dramodydd yw
    Ymylau Byd yn hytrach na ffrwyth syniad haniaethol ac o'r herwydd ni theimlid
    fod angen trafodaeth ddeallusol ar yr hyn a'i symbylodd. Mae Golff a Ffrwd
    Ceinwen
    yn wahanol: syniad deallusol oedd eu man cychwyn. Trafadir hyn
    mewn manylder.
    Date of AwardJul 2003
    Original languageWelsh
    Awarding Institution
    • University of Wales, Bangor
    SupervisorGwyn Thomas (Supervisor)

    Cite this

    '