Skip to main navigation Skip to search Skip to main content

'The mighty mam' : Clara Novello Davies a byd cerddoriaeth broffesiynol yng Nghymru

  • Gwawr Jones

    Student thesis: Doctor of Philosophy

    Abstract

    Carreg sylfaen i fyd lliwgar ac amlochrog Clara Novello Davies yw'r astudiaeth hon. Cyfosodir ei chyfraniad a'i gweithgarwch mewn meysydd cerddorol a diwylliannol gyda datblygiad y cerddor proffesiynol yng Nghymru, Lloegr a'r Amerig ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif, gan ystyried i ba raddau y bu'n rhagflaenydd yn ei maes yn ystod y cyfnod hwn.
    Er bod camau breision wedi'u gwneud yn y cyfnod diweddar i ddatblygu'n
    gwybodaeth o faes cerddoriaeth yng Nghymru, mae dirfawr angen craffu'n ddyfnach i fyd y gwragedd hynny a fu mor allweddol yn llywio'r trywydd cerddorol yng Nghymru. Ymgais i gyfrannu at y broses o unioni'r dafol yw'r astudiaeth hon a thynnu sylw at un a fu'n arloesol yn ei dydd, ond sydd bellach wedi cilia i ymylon y cof.
    Creffir yn benodol ar ei gwaith mewn cyd-destun proffesiynol gan gyfosod rhai o'i hathroniaethau gyda rhinweddau a ffaeleddau cerddoriaeth yn yr unfed ganrif ar hugain.
    Rhoddir ystyriaeth i'w chorau a'i gwaith fel arweinyddes a hyfforddwraig lleisiol,
    ynghyd a'r meysydd ymylol a oedd yn rhan annatod o'r agweddau hynny, a'u
    cyfosod yn erbyn yr hinsawdd cerddorol Cymreig a Phrydeinig y cyfnod. Wrth
    graffu ar lawysgrifau, cyfnodolion a phapurau newydd o'r cyfnod gellir olrhain ei
    chyfraniad, ei dylanwad a'i phroffesiynoldeb a'i gyfosod yn erbyn y traddodiad
    cenedlaethol a rhyngwladol ehangach.
    Date of Award2015
    Original languageWelsh
    Awarding Institution
    • Bangor University
    SupervisorWyn Thomas (Supervisor)

    Cite this

    '