Astudiaeth o drefniannau lleisiol o alawon gwerin Cymreig gan Grace Williams (1906–1977)rhwng 1950 a 1960 yw sail a sylfaen yr astudiaeth hon. Mae’r ddegawd hon yng ngyrfa’r gyfansoddwraig yn adlewyrchu cyfnod mwyaf cynhyrchiol Williams fel trefnydd alawon traddodiadol. Nid yw’r astudiaeth yn trafod ei threfniannau o alawon offerynnol, ond yn hytrach yn canolbwyntio ar y gweithiau lleisiol yn unig. Daeth yn amlwg fod trefniannau o alawon brodorol yn agwedd werthfawr o allbwn y gyfansoddwraig sydd wedi eu hanwybyddu mewn astudiaethau cyhoeddedig amdani. Gan gofio mai â cherddoriaeth gerddorfaol y cysylltir Grace Williams yn bennaf, mae’r traethawd hwn yn adlewyrchu’r awydd i ymchwilio a rhoi sylw i’w harddull leisiol (mewn trefniannau syml i blant, gweithiau unawdol a chyfansoddiadau corawl). Gobaith yr astudiaeth yw dwyn sylw haeddiannol i gyfansoddwraig na chafodd gydnabyddiaeth deilwng yng Nghymru nac ar Ynysoedd Prydain yn ystod ei hoes.
| Date of Award | 16 Jan 2023 |
|---|
| Original language | English |
|---|
| Awarding Institution | |
|---|
| Sponsors | Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen |
|---|
| Supervisor | Iwan Llewelyn Jones (Supervisor) & Pwyll ap Sion (Supervisor) |
|---|
The Tune is the Nation’s: Astudiaeth o Drefniannau Alawon Gwerin Cymreig Grace Williams
Jones, E. (Author). 16 Jan 2023
Student thesis: Masters by Research