Abstract
Mae'r Rhagymadrodd yn olrhain hanes y ddrama deledu Gymraeg yn fras ac yncyflwyno'r traethawd a bwriad yr ymchwil, gan gynnwys arolwg llenyddol o
weithiau eraill sy'n trafod dramâu teledu, gan osod y gwaith hwn yng nghyd-destun y gweithiau eraill.
Yn y bennod agoriadol trafodir arddull y deuddeg drama deledu a drafodir yn y
traethawd hwn. Archwilir datblygiad y technegau a ddefnyddir mewn dramâu
cyfres a chyfresi dramâu teledu.
Yn Rhan 1 astudir y cyfresi sydd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd. Ym Mhennod 1 archwilir y thema Cymreictod a'r math o gymuned a bortreadir yn y ddinas. Ym Mhennod 2 archwilir moeseg y cymeriadau. Ac ym Mhennod 3 ceir trafodaeth ar yr ymdriniaeth â hil yng nghyfresi sydd wedi eu lleoli yng Nghaerdydd.
Yn Rhan 2 astudir y dramâu cyfres sydd wedi eu lleoli yng ngogledd Cymru. Mae Pennod 1 yn archwilio'r elfennau o Gymreictod a sut yr ymdrinnir â hwy o fewn y cyfresi a'r cymunedau gogleddol a bortreadir. Ym Mhennod 2 trafodir moesoldeb y cymeriadau a dadansoddir yr hyn a ddywedir am gydwybod foesol y gymuned yn ei chyfanrwydd a sut y darlunnir y gogledd. Ac ym Mhennod 3 ceir trafodaeth ar y modd y cynrychiolir pobl ifanc o fewn y dramâu.
Yn Rhan 3 astudir y dramâu teledu sydd wedi eu lleoli yn ne-orllewin Cymru. Mae Pennod 1 yn archwilio'r thema Cymreictod a'r gymuned a bortreadir yn y cyfresi. Ym Mhennod 2 dadansoddir moesoldeb y cymeriadau o fewn y cymunedau. Ac ym Mhennod 3 ceir trafodaeth ar yr ymdriniaeth o ferched yn y cyfresi drama.
I gloi, mae Ôl-ymadrodd yn crynhoi'r hyn a ddaeth i'r golwg yn ystod yr ymchwil a syniadau clo'r awdur am y ddrama deledu Gymraeg.
Ar ddiwedd y traethawd ceir Atodiadau, un ar gyfer pob cyfres a drafodir, yn cynnwys manylion cynhyrchu, yn ogystal â llyfryddiaeth.
| Date of Award | 2011 |
|---|---|
| Original language | Welsh |
| Awarding Institution |
|
| Sponsors | Arts and Humanities Research Council (AHRC) |
| Supervisor | Gerwyn Wiliams (Supervisor) |
Cite this
- Standard