Skip to main navigation Skip to search Skip to main content

Twf a datblygiad ffuglen o fewn gwasg gyfnodol Gymraeg y ddeunawfed ganrif

  • Gwenan Roberts

    Student thesis: Doctor of Philosophy

    Abstract

    Mae’r traethawd hwn yn canolbwyntio ar gyfnodolion Cymraeg cynnar y ddeunawfed ganrif gan ddangos sut y bu iddynt symud achos rhyddiaith a ffuglen Gymraeg yn ei flaen ar gyfer ffyniant llenyddol y ganrif nesaf. Tynnir sylw at bwysigrwydd ac arwyddocâd cyfieithu wrth i gyfnodolion Cymru addasu a chyfieithu’r ysgrifau a gyhoeddwyd yn y wasg Saesneg.
    Yn y bennod gyntaf canolbwyntir ar Tlysau yr Hen Oesoedd gan ddadansoddi’r unig ysgrif estynedig a ymddangosodd yn y cylchgrawn sef ‘Ystori Doctor y Bendro’. Trysorfa Gwybodaeth neu Eurgrawn Cymraeg sy’n hawlio sylw yn yr ail bennod a thrafodir dwy ysgrif sef ‘Taith Obida’ ac ‘Ystori y Gwr bonheddig a’r Basgetwr’. Neilltuir dwy bennod i drafod y Cylch-grawn Cynmraeg, dadansoddir ‘Hanes Bywyd Mr. David George’ ym mhennod tri a rhoddir sylw manwl i ‘Gwr Bonheddig o Ffraingc’ ym mhennod pedwar.
    Cyflwynir yr astudiaeth hon fel cyfraniad manwl i’n dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfnodolion Cymraeg y ddeunawfed ganrif.
    Date of Award22 Oct 2018
    Original languageWelsh
    Awarding Institution
    • Bangor University
    SupervisorGerwyn Wiliams (Supervisor)

    Keywords

    • PhD
    • School of Welsh

    Cite this

    '