Mae’r prosiect hwn yn seiliedig ar nofel hir, Veritas, a luniwyd yn ystod cyfnod y prosiect. Cyflwynir y prosiect mewn dwy ran. Yn y rhan gyntaf, ceir traethawd hir sy’n disgrifio’r broses greadigol bersonol hon. Dangosir sut y mae hanes yn gallu bod yn rhan o nofel, ond heb i’r nofel honno fod yn genre y nofel hanesyddol. Dangosir hefyd sut yr oedd rhoi amser i’r nofel ddatblygu yn bwysig, wrth iddi ddod dan ddylanwad amryw ffactorau a effeithiodd ar ei ffurf orffenedig. Yn yr ail ran ceir y nofel Veritas. Cyhoeddwyd y nofel hon yn 2015. At ddibenion y traethawd hwn, mae unrhyw gyfeiriad at rifau tudalennau Veritas yn gyfeiriad atynt fel y’u gosodwyd yn ail ran y ddoethuriaeth hon.
Date of Award | Jan 2016 |
---|
Original language | Welsh |
---|
Awarding Institution | |
---|
Supervisor | Gerwyn Wiliams (Supervisor) |
---|
Veritas: : hanes a'r nofel ddirgelwch
Davies, M. (Author). Jan 2016
Student thesis: Doctor of Philosophy