Professor Huw Pryce

Emeritus Professor

Contact info

Ebost: a.h.pryce@bangor.ac.uk

Trosolwg

Bywgraffiad a meysydd ymchwil

Addysgwyd Huw Pryce yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (BA 1979, DPhil 1985). Ymunodd â’r staff ym Mangor yn 1981 a bu'n Athro Hanes Cymru o 2005 hyd ei ymddeoliad yn 2021; y mae bellach yn Athro Emeritws. Yn 2011 fe’i hetholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Roedd ei thesis doethur yn ymwneud â’r gyfraith Gymreig a’r Eglwys yn yr oesoedd canol, ac mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes Cymru yn yr oesoedd canol, yn cynnwys cyfrol o’r dogfennau a luniwyd gan dywysogion brodorol Cymru 1120–1283. Hefyd sefydlodd gyfres o gynadleddau ar Gymru’r oesoedd canol a gynhelir bob yn ail blwyddyn ym Mangor er 2002.

Mae ei ymchwil bresennol yn canolbwyntio'n bennaf ar hanesyddiaeth Cymru. Ei lyfrau diweddaraf yw astudiaeth o’r hanesydd John Edward Lloyd (1861–1947), Athro Hanes ym Mangor, a chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu hanes Cymru fel pwnc academaidd modern; casgliad o ysgrifau wedi eu cyd-olygu yn ymwneud â’r ffordd yr astudiwyd y gorffennol yng Nghymru ac mewn gwledydd bychain eraill rhwng 1850 a 1950; a chyfrol sydd newydd ei gorffen ar hanesyddiaeth Cymru rhwng yr oesoedd canol cynnar a'r presennol. Y mae hefyd yn gyd-olygydd Cylchgrawn Hanes Cymru (Welsh History Review) ac un o olygyddion y cyfresi Studies in Celtic History (Boydell) a Rethinking the History of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru).

Ymchwil: Prosiectau Cyfredol a Diweddar

Hanesyddiaeth Cymru

Dros y degawd diwethaf rwyf wedi ymddiddori fwyfwy yn y modd y mae hanes Cymru wedi’i sgrifennu a beth all hyn ei ddweud wrthym am y defnydd o’r gorffennol a chreu hunaniaethau, yn arbennig mewn cenhedloedd bach. Yn ogystal ag astudiaethau ar Gerallt Gymro ac ar nifer o haneswyr yr ugeinfed ganrif, rwyf wedi cyhoeddi (2011) bywgraffiad deallusol o John Edward Lloyd (1861–1947), hanesydd arloesol ar Gymru’r oesoedd canol a chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu hanes Cymru fel pwnc academaidd modern, ac wedi cydolygu â Neil Evans cyfrol o ysgrifau sy’n archwilio sgrifennu hanesyddol yng Nghymru ac mewn gwledydd Ewropeaidd eraill 1850–1950 (2013). Yn 2014 traddodais Ddarlith O’Donnell ym Mhrifysgol Rhydychen ar yr ymdriniaeth â hanes canoloesol Cymru yn oes Victoria, ac yn 2019 traddodais Ddarlith O’Donnell ym Mhrifysgolion Bangor, Caerdydd a Chymru Y Drindod Dewi Sant ar agweddau ar hanesyddiaeth Cymru o'r oesoedd canol hyd heddiw. Rwyf hefyd yn Gyd-Archwiliwr ar brosiect mawr AHRC (2017-20) i olygu gweithiau'r hynafiaethydd, hanesydd a mapiwr Humphrey Llwyd (1527-68): 'Inventor of Britain: The Complete Works of Humphrey Llwyd'.

Rwyf newydd orffen cyfrol yn adeiladu ar yr astudiaethau hyn, sef y llyfr cyntaf ar sut y mae hanes Cymru a’r Cymry wedi’i sgrifennu o’r oesodd canol cynnar hyd y presennol: Writing Welsh History: From the Early Middle Ages to the Twenty-First Century (i'w chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen).

Canoloesoldeb a Hynafiaetheg yng Nghymru’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Yn fy Narlith John V. Kelleher yng Nghynhadledd Geltaidd Harvard yn 2011 trafodais y modd y derbyniwyd yr oesoedd canol yng Nghymru oes Victoria, a’r graddau yr arweiniodd hyn at adfywiad neo-ganoloesol mewn diwylliant gweledol a llenyddol. Rwyf wedi cyhoeddi ar agweddau eraill ar y maes ers hynny, gan gynnwys astudiaeth fanwl o ymgais i ddefnyddio awdurdod Cyfraith Hywel Dda mewn achos cyfreithiol yn ymwneud â hawliau glan môr yn Sir Fôn yn 1862–4, a gyhoeddwyd (gyda Gwilym Owen) yn y Journal of Legal History, 35/2(2014), http://www.tandfonline.com/toc/flgh20/35/2#.VQCLb2ZhSZE; erthygl yn trafod dylanwad mesurau treftadaeth Ffrengig ar Harry Longueville Jones, cyd-sylaenydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru (Cambrian Archaeological Association), mesurau y daeth Jones i gymryd rhan ynddynt yn ystod arhosiad ym Mharis (c.1835–42), yn The Antiquaries Journal, 96 (2016), http://journals.cambridge.org/abstract_S000358151600024X; a phennod yn yr Oxford Handbook of Victorian Medievalism, gol. Joanne Parker a Corinna Wagner (OUP, 2020) yn cymharu'r defnydd o'r oesoedd canol yng Nghymru ac Iwerddon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 

Cymru’r Oesoedd Canol

Rwyf wedi cyhoeddi’n helaeth ar hanes Cymru’r oesoedd canol ac yn dal i ymchwilio ar agweddau arno, gan gynnwys Gerallt Gymro. Mae elfen ganoloesol gref i’m gwaith ar hanesyddiaeth, gan ei fod yn cynnwys yr oesoedd canol, a hefyd o’r unfed ganrif ar bymtheg hyd ddechrau’r ugeinfed ganrif tueddai gweithiau ar hanes Cymru i ganolbwyntio’n bennaf ar wreiddiau hynafol a chanoloesol y Cymry ac i ddibynnu’n helaeth ar ffynonellau canoloesol. Yn 2005 cyhoeddais olygiad o siarteri, llythyrau a dogfennau eraill y tywysogion Cymreig, ac arweiniodd fy ymchwil yn y maes hwn at fy ethol yn 2012 yn aelod o’r Commission internationale de diplomatique, o dan y Comité international des Sciences historiques, sydd wedi cynnig fforwm ar gyfer archwilio siarteri a dogfennau canoloesol eraill o Gymru mewn cyd-destun cymharol.

 

Myfyrwyr PhD

Myfyrwyr PhD presennol

  • Jennifer Bell, 'The Development of Early Medieval Saints’ Cults in South Wales'
  • Elizabeth Holmes, 'The Portrayal of Masculinity and Femininity in the Writings of Gerald of Wales'
  • Rhonwen Roberts, ‘Medievalism and Welsh Identity, c.1870–1939’

Myfyrwyr PhD blaenorol

  • Sadie Jarrett, ‘The Identity and Influence of the Salesbury Family of Rhug and Bachymbyd in the 16th and 17th centuries’ (2021)
  • Shaun McGuinness, ‘The Bishops of Bangor and their Acta, 1092–1307’ (2020)
  • Daniel Rhydderch-Dart, ‘Making Communities in Modern Wales: Caernarfonshire 1880–1914’ (2020)
  • Edwin Hustwit, ‘The Britons: Power, Identity and Ethnicity, 350–1000’ (2015)
  • Danna Messer, ‘The Uxorial Lifecycle and Female Agency in Wales in the Twelfth and Thirteenth centuries’ (2014)
  • Owain Wyn Jones, ‘Historical Writing in Medieval Wales’ (2014)
  • Euryn Roberts, ‘Hunaniaeth Ranbarthol yng Nghymru’r Oesau Canol, c.1100–c.1283’ (2013)
  • Gwenno Angharad Elias, ‘Golygiad o Lsgr. Peniarth 164 o Gyfraith Hywel’ (2007)
  • Matthew J. Pearson, ‘Welsh Cathedral Chapters, 1100–1300’ (2000)
  • Stefan Narkiewicz, ‘The Speculum Ecclesiae of Gerald of Wales: An Historical Analysis and Commentary’ (1995)

Manylion Cyswllt

Ebost: a.h.pryce@bangor.ac.uk

Cyhoeddiadau (49)

Gweld y cyfan

Gweld graff cysylltiadau