Yr Athro Jerry Hunter

Athro

Contact info

Astudiodd ym Mhrifysgol Cincinnati (BA, Saesneg), Prifysgol Cymru Aberystwyth (MPhil, Cymraeg) a Phrifysgol Harvard (PhD, Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd).  Bu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Harvard a Chaerdydd cyn dod i Fangor yn 2003.

Mae meysydd ei ymchwil yn amrywiol iawn ac mae wedi cyhoeddi am lenyddiaeth Gymraeg o bob cyfnod, o'r Oesoedd Canol i lenyddiaeth gyfoedd.  Mae wedi cyhoeddi pump o gyfrolau academaidd, un am y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth, proffwydoliaeth a hanesyddiaeth yn yr unfed ganrif ar bymtheg a phedair yn ymdrin â gwahanol agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg America'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Enillodd un ohonynt, Llwch Cenedlaethol: Y Cymry a Rhyfel Cartref America, wobr 'Llyfr y Flwyddyn' Llenyddiaeth Cymru yn 2004 (ac mae dau arall o'i lyfrau wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr un wobr).

Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar lenyddiaeth Gymraeg a rhyfeloedd yr ail ganrif ar bymtheg ac yn gobeithio adeiladu ar y seiliau a amlinellir mewn cyhoeddiad diweddar, 'The Red Sword, the Sickle and the Author's Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century' (the 2016 J.V. Kelleher Lecture, Proceeding of the Harvard Celtic Colloquium, cyf. xxxvi).

Ac yntau'n awdur creadigol hefyd, mae wedi cyhoeddi pump o nofelau - Gwenddydd (2010), a enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwreiddyn Chwerw (2012), Ebargofiant (2014), Y Fro Dywyll (2014) ac Ynys Fadog (2018).  Mae wedi cyhoeddi nofel fer ar gyfer plant hefyd.

Mae wedi cyflwyno a chyd-sgriptio tair cyfres ddogfen ar gyfer S4C.  Enillodd un ohonynt, Cymry Rhyfel Cartref America, wobr BAFTA Cymru Gwyn Alf Williams.

  1. Teledu 'Da'? Ystyriaethau golygyddol wrth greu cynyrchiadau dogfen am y celfyddydau i S4C.

    Awdur: Ellis, G., 8 Hyd 2020

    Goruchwylydd: Hunter, J. (Goruchwylydd) & Muse, E. (Goruchwylydd)

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

  2. ‘Mae’r Beibl o’n tu’: Y dadleuon Beiblaidd ynghylch caethwasiaeth ar dudalennau gwasg gyfnodol Gymraeg America, 1838-1868

    Awdur: Evans-Jones, G. H., Ion 2017

    Goruchwylydd: Davies, E. (Goruchwylydd) & Hunter, T. (Goruchwylydd)

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

  3. Kate Roberts a’r Ddrama

    Awdur: Jones, D., Ion 2014

    Goruchwylydd: Hunter, J. (Goruchwylydd)

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

  4. Rhai o Gymunedau’n Llên: y Lleol a’r Cenedlaethol

    Awdur: Lenny Turner, B., 3 Awst 2020

    Goruchwylydd: Hunter, T. (Goruchwylydd)

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

  5. Cyfaill pwy o'r hen wlad?: y wasg gyfnodol Gymraeg a hunaniaeth Cymry America 1838-66

    Awdur: Williams, R., Ion 2012

    Goruchwylydd: Hunter, J. (Goruchwylydd)

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth