Yr Athro Jerry Hunter

Athro

Contact info

Astudiodd ym Mhrifysgol Cincinnati (BA, Saesneg), Prifysgol Cymru Aberystwyth (MPhil, Cymraeg) a Phrifysgol Harvard (PhD, Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd).  Bu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Harvard a Chaerdydd cyn dod i Fangor yn 2003.

Mae meysydd ei ymchwil yn amrywiol iawn ac mae wedi cyhoeddi am lenyddiaeth Gymraeg o bob cyfnod, o'r Oesoedd Canol i lenyddiaeth gyfoedd.  Mae wedi cyhoeddi pump o gyfrolau academaidd, un am y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth, proffwydoliaeth a hanesyddiaeth yn yr unfed ganrif ar bymtheg a phedair yn ymdrin â gwahanol agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg America'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Enillodd un ohonynt, Llwch Cenedlaethol: Y Cymry a Rhyfel Cartref America, wobr 'Llyfr y Flwyddyn' Llenyddiaeth Cymru yn 2004 (ac mae dau arall o'i lyfrau wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr un wobr).

Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar lenyddiaeth Gymraeg a rhyfeloedd yr ail ganrif ar bymtheg ac yn gobeithio adeiladu ar y seiliau a amlinellir mewn cyhoeddiad diweddar, 'The Red Sword, the Sickle and the Author's Revenge: Welsh Literature and Conflict in the Seventeenth Century' (the 2016 J.V. Kelleher Lecture, Proceeding of the Harvard Celtic Colloquium, cyf. xxxvi).

Ac yntau'n awdur creadigol hefyd, mae wedi cyhoeddi pump o nofelau - Gwenddydd (2010), a enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, Gwreiddyn Chwerw (2012), Ebargofiant (2014), Y Fro Dywyll (2014) ac Ynys Fadog (2018).  Mae wedi cyhoeddi nofel fer ar gyfer plant hefyd.

Mae wedi cyflwyno a chyd-sgriptio tair cyfres ddogfen ar gyfer S4C.  Enillodd un ohonynt, Cymry Rhyfel Cartref America, wobr BAFTA Cymru Gwyn Alf Williams.

  1. 2020
  2. Teledu 'Da'? Ystyriaethau golygyddol wrth greu cynyrchiadau dogfen am y celfyddydau i S4C.

    Awdur: Ellis, G., 8 Hyd 2020

    Goruchwylydd: Hunter, J. (Goruchwylydd) & Muse, E. (Goruchwylydd)

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

  3. Rhai o Gymunedau’n Llên: y Lleol a’r Cenedlaethol

    Awdur: Lenny Turner, B., 3 Awst 2020

    Goruchwylydd: Hunter, T. (Goruchwylydd)

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

  4. 2017
  5. ‘Mae’r Beibl o’n tu’: Y dadleuon Beiblaidd ynghylch caethwasiaeth ar dudalennau gwasg gyfnodol Gymraeg America, 1838-1868

    Awdur: Evans-Jones, G. H., Ion 2017

    Goruchwylydd: Davies, E. (Goruchwylydd) & Hunter, T. (Goruchwylydd)

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

  6. 2014
  7. Kate Roberts a’r Ddrama

    Awdur: Jones, D., Ion 2014

    Goruchwylydd: Hunter, J. (Goruchwylydd)

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth

  8. 2012
  9. Cyfaill pwy o'r hen wlad?: y wasg gyfnodol Gymraeg a hunaniaeth Cymry America 1838-66

    Awdur: Williams, R., Ion 2012

    Goruchwylydd: Hunter, J. (Goruchwylydd)

    Traethawd ymchwil myfyriwr: Doethur mewn Athroniaeth