Dr Sarah Pogoda

Darlithydd mewn Astudiaethau Almaenaidd

Contact info

Un o Bergische Land (Nordrhein-Westfalen) wyf i'n wreiddio. Astudiais lenyddiaeth Almaeneg, hanes a chyfathrebu yn y Freie Universität Berlin. Fel rhan o'm rhaglen israddedig, bûm ar gyfnewid Erasmus i Brifysgol Fienna. Ar ôl fy Magister Artium, mi wnes i gwblhau doethuriaeth mewn llenyddiaeth Almaeneg. Bûm yn gweithio fel tiwtor ar gyfer GfL (Almaeneg fel Iaith Dramor) yn y sector preifat ym Merlin, ac yna mi es i Brifysgol Sheffield fel DAAD-Lektorin yn 2012. Yn ystod hydref 2016 deuthum i Brifysgol Bangor.

Dysgu

Yn Freie Universität Berlin a'r Humboldt Universität zu Berlin, bûm yn dysgu nifer o fodiwlau ar Astudiaethau Gwleidyddol a Llenyddiaeth Almaeneg yr 20fed ganrif. Fel DAAD-Lektor ym Mhrifysgol Sheffield (2012-2016), bûm yn dysgu modiwlau ar ddiwylliant a chyfryngau Almaeneg cyfoes, celfyddyd, ffilm a pherfformiad yn yr Almaen ar ôl y wal, yn ogystal â modiwlau ar lenyddiaeth gyfoes yr Almaen. Ochr yn ochr â'r dysgu dan arweiniad ymchwil, bûm yn dysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel (ab initio hyd at allu sydd bron cystal â brodorol) ers 2011. Ym Mhrifysgol Bangor, rwy'n dal i ddysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel, yn ogystal â dysgu israddedig ac ôl-radd yn fy maes arbenigedd ymchwil, gan gynnwys e.e. y modiwlau "Culture in Context" (LXE 1600); "Divided Germany" (LXG 2013), "Performing Germany" (LXG 3036), "German Avant-Garde" (LXM 4037) a "Critical Theory" (LXM 4001).

Wrth ddysgu, mae'n well gennyf integreiddio arferion artistig, megis Digwyddiadau ac ymarferion Ysgrifennu Creadigol. Credaf mai dysgu trwy ymarfer yw'r ffordd orau o ddysgu, ond yn bennaf oll, rwyf am ddangos i'r myfyrwyr fod y chwyldro'n dechrau gyda ni ein hunain a'r tu mewn inni ein hunain. Y chwyldro hwn ar yr hunan yn fy marn i yw profiad allweddol bywyd, a bywyd prifysgol yn arbennig. Cefais fy enwebu ar gyfer Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig.

Ymchwil

Mae fy mhrosiect ymchwil cyfredol yn ystyried syniad y ddelwedd symudol yng ngwaith Christoph Schlingensief a sut y caiff ei drawsnewid trwy weithio mewn genres heblaw ffilm, megis cynyrchiadau theatr, dramâu radio a chelfyddyd weithredol. Yn hyn o beth, mae gennyf ddiddordeb arbennig ym mhosibiliadau gwleidyddol celfyddyd a sut mae artist cyfoes yn ymyrryd yn y maes cyhoeddus. Yma, yr wyf yn archwilio strategaethau trawsnewidiol celfyddyd Avant-garde. O ran y cwestiynau hyn, trefnais y gynhadledd ryngwladol"Christoph Schlingensief a'r Avant-Garde"yn y Zie Bielefeld fis Chwefror 2017.

Hefyd, yr wyf yn awyddus i archwilio dulliau ymchwil fel celfyddyd a sut y gall ymchwil ac academi ail-lunio'r cyswllt â'r cyhoedd trwy ymchwil artistig. Yn y cyd-destun hwnnw y dechreuais y project arbrofol "Bellotograph".

Mae diddordebau ymchwil lu i'w cael yn y cysylltiadau sydd â llenyddiaeth a phensaernïaeth ac, yn fwy cyffredinol, yn hanes, diwylliant, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yr Almaen ar ôl 1945, gan gynnwys yr hen GDR. Yn fy nhraethawd doethur, rwy'n edrych ar drosiadau adeiladau ac anheddau yn llenyddiaeth a diwylliant yr Almaen ar ôl y rhyfel a heddiw. Yn ogystal, mae gennyf ddiddordeb yn llenyddiaeth gyfoes yr Almaen yn gyffredinol.)

  1. Peter Lang (Cyhoeddwr)

    Sarah Pogoda (Aelod o fwrdd golygyddol)

    1 Awst 202130 Mai 2022

    Gweithgaredd: Cyhoeddiad adolygiad cymheiriaid a gwaith golygyddolGweithgarwch golygyddol

  2. PhD External Examiner

    Sarah Pogoda (Arholwr)

    28 Gorff 2020

    Gweithgaredd: Arholiad

  3. Placing Experiment: Losing, Gaining and Shifting Ground.

    Sarah Pogoda (Siaradwr) & Zoë Skoulding (Siaradwr)

    3 Rhag 2022

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd

  4. Posthumanism and the Posthuman.

    Sarah Pogoda (Siaradwr)

    24 Ebr 2023

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd

  5. Posthumanismus. Transhumanismus. Jenseits des Menschen?

    Sarah Pogoda (Siaradwr)

    27 Mai 2022

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd

  6. Public Engagement as Social Structure - Research as Art in Public Engagement

    Sarah Pogoda (Siaradwr)

    25 Hyd 2018

    Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniadSgwrs wadd

  7. Radical Thought in the Anthropocene

    Sarah Pogoda (Siaradwr)

    1 Meh 2023

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd

  8. Re-imagining Class

    Sarah Pogoda (Siaradwr)

    6 Mai 2022

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd

  9. Recording video interview with Alexander Kluge

    Sarah Pogoda (Cyfrannwr)

    21 Gorff 2018

    Gweithgaredd: Arall

  10. Sich einrichten. Zur Poetik und Semiotik des Wohnens seit 1850

    Sarah Pogoda (Siaradwr)

    11 Ebr 201913 Ebr 2019

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd