Dr Sarah Pogoda
Darlithydd mewn Astudiaethau Almaenaidd
Contact info
Dysgu
Yn Freie Universität Berlin a'r Humboldt Universität zu Berlin, bûm yn dysgu nifer o fodiwlau ar Astudiaethau Gwleidyddol a Llenyddiaeth Almaeneg yr 20fed ganrif. Fel DAAD-Lektor ym Mhrifysgol Sheffield (2012-2016), bûm yn dysgu modiwlau ar ddiwylliant a chyfryngau Almaeneg cyfoes, celfyddyd, ffilm a pherfformiad yn yr Almaen ar ôl y wal, yn ogystal â modiwlau ar lenyddiaeth gyfoes yr Almaen. Ochr yn ochr â'r dysgu dan arweiniad ymchwil, bûm yn dysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel (ab initio hyd at allu sydd bron cystal â brodorol) ers 2011. Ym Mhrifysgol Bangor, rwy'n dal i ddysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel, yn ogystal â dysgu israddedig ac ôl-radd yn fy maes arbenigedd ymchwil, gan gynnwys e.e. y modiwlau "Culture in Context" (LXE 1600); "Divided Germany" (LXG 2013), "Performing Germany" (LXG 3036), "German Avant-Garde" (LXM 4037) a "Critical Theory" (LXM 4001).
Wrth ddysgu, mae'n well gennyf integreiddio arferion artistig, megis Digwyddiadau ac ymarferion Ysgrifennu Creadigol. Credaf mai dysgu trwy ymarfer yw'r ffordd orau o ddysgu, ond yn bennaf oll, rwyf am ddangos i'r myfyrwyr fod y chwyldro'n dechrau gyda ni ein hunain a'r tu mewn inni ein hunain. Y chwyldro hwn ar yr hunan yn fy marn i yw profiad allweddol bywyd, a bywyd prifysgol yn arbennig. Cefais fy enwebu ar gyfer Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig.
Ymchwil
Mae fy mhrosiect ymchwil cyfredol yn ystyried syniad y ddelwedd symudol yng ngwaith Christoph Schlingensief a sut y caiff ei drawsnewid trwy weithio mewn genres heblaw ffilm, megis cynyrchiadau theatr, dramâu radio a chelfyddyd weithredol. Yn hyn o beth, mae gennyf ddiddordeb arbennig ym mhosibiliadau gwleidyddol celfyddyd a sut mae artist cyfoes yn ymyrryd yn y maes cyhoeddus. Yma, yr wyf yn archwilio strategaethau trawsnewidiol celfyddyd Avant-garde. O ran y cwestiynau hyn, trefnais y gynhadledd ryngwladol"Christoph Schlingensief a'r Avant-Garde"yn y Zie Bielefeld fis Chwefror 2017.
Hefyd, yr wyf yn awyddus i archwilio dulliau ymchwil fel celfyddyd a sut y gall ymchwil ac academi ail-lunio'r cyswllt â'r cyhoedd trwy ymchwil artistig. Yn y cyd-destun hwnnw y dechreuais y project arbrofol "Bellotograph".
Mae diddordebau ymchwil lu i'w cael yn y cysylltiadau sydd â llenyddiaeth a phensaernïaeth ac, yn fwy cyffredinol, yn hanes, diwylliant, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yr Almaen ar ôl 1945, gan gynnwys yr hen GDR. Yn fy nhraethawd doethur, rwy'n edrych ar drosiadau adeiladau ac anheddau yn llenyddiaeth a diwylliant yr Almaen ar ôl y rhyfel a heddiw. Yn ogystal, mae gennyf ddiddordeb yn llenyddiaeth gyfoes yr Almaen yn gyffredinol.)
-
Small Scale Solutions – How Artists Respond to Covid and Climate Crisis
Sarah Pogoda (Siaradwr)
30 Maw 2022Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
-
Small Scale Solutions: Re-Inventing the Live Event
Sarah Pogoda (Siaradwr)
21 Chwef 2022 → 22 Chwef 2022Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd
-
The Bellotograph Project
Sarah Pogoda (Cyfrannwr)
8 Mai 2015 → 12 Mai 2015Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa
-
The Transformative Power of Performance
Sarah Pogoda (Siaradwr)
24 Ion 2019Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Cyflwyniad llafar
-
This Buoy‘s Life
Sarah Pogoda (Cyfrannwr)
29 Tach 2021 → 18 Rhag 2021Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa
-
Treat Art with Dada
Sarah Pogoda (Cyfrannwr)
8 Meh 2019Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus
-
-
Verifiktion
Sarah Pogoda (Cyfrannwr) & Lore Knapp (Darlithydd)
6 Rhag 2022Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Ymchwilio a Dysgu mewn Sefydliad Allanol
-
Welsh Crucible
Sarah Pogoda (Cyfranogwr)
25 Mai 2017 → 14 Gorff 2017Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd
-
WiGS - Women in German Studies (Sefydliad allanol)
Sarah Pogoda (Aelod)
1 Meh 2017 → …Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelodaeth o bwyllgor
-
Wrappening - Introduction Performance to Wim Wender‘s "Alice in the Cities"
Sarah Pogoda (Cyfrannwr)
31 Gorff 2022Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau
-
XIV. Kongress der Internationalen Vereinigung für Germanistik (IVG)
Sarah Pogoda (Siaradwr)
1 Ion 2018 → 2 Awst 2019Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd