Dr Sarah Pogoda

Darlithydd mewn Astudiaethau Almaenaidd

Contact info

Un o Bergische Land (Nordrhein-Westfalen) wyf i'n wreiddio. Astudiais lenyddiaeth Almaeneg, hanes a chyfathrebu yn y Freie Universität Berlin. Fel rhan o'm rhaglen israddedig, bûm ar gyfnewid Erasmus i Brifysgol Fienna. Ar ôl fy Magister Artium, mi wnes i gwblhau doethuriaeth mewn llenyddiaeth Almaeneg. Bûm yn gweithio fel tiwtor ar gyfer GfL (Almaeneg fel Iaith Dramor) yn y sector preifat ym Merlin, ac yna mi es i Brifysgol Sheffield fel DAAD-Lektorin yn 2012. Yn ystod hydref 2016 deuthum i Brifysgol Bangor.

Dysgu

Yn Freie Universität Berlin a'r Humboldt Universität zu Berlin, bûm yn dysgu nifer o fodiwlau ar Astudiaethau Gwleidyddol a Llenyddiaeth Almaeneg yr 20fed ganrif. Fel DAAD-Lektor ym Mhrifysgol Sheffield (2012-2016), bûm yn dysgu modiwlau ar ddiwylliant a chyfryngau Almaeneg cyfoes, celfyddyd, ffilm a pherfformiad yn yr Almaen ar ôl y wal, yn ogystal â modiwlau ar lenyddiaeth gyfoes yr Almaen. Ochr yn ochr â'r dysgu dan arweiniad ymchwil, bûm yn dysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel (ab initio hyd at allu sydd bron cystal â brodorol) ers 2011. Ym Mhrifysgol Bangor, rwy'n dal i ddysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel, yn ogystal â dysgu israddedig ac ôl-radd yn fy maes arbenigedd ymchwil, gan gynnwys e.e. y modiwlau "Culture in Context" (LXE 1600); "Divided Germany" (LXG 2013), "Performing Germany" (LXG 3036), "German Avant-Garde" (LXM 4037) a "Critical Theory" (LXM 4001).

Wrth ddysgu, mae'n well gennyf integreiddio arferion artistig, megis Digwyddiadau ac ymarferion Ysgrifennu Creadigol. Credaf mai dysgu trwy ymarfer yw'r ffordd orau o ddysgu, ond yn bennaf oll, rwyf am ddangos i'r myfyrwyr fod y chwyldro'n dechrau gyda ni ein hunain a'r tu mewn inni ein hunain. Y chwyldro hwn ar yr hunan yn fy marn i yw profiad allweddol bywyd, a bywyd prifysgol yn arbennig. Cefais fy enwebu ar gyfer Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig.

Ymchwil

Mae fy mhrosiect ymchwil cyfredol yn ystyried syniad y ddelwedd symudol yng ngwaith Christoph Schlingensief a sut y caiff ei drawsnewid trwy weithio mewn genres heblaw ffilm, megis cynyrchiadau theatr, dramâu radio a chelfyddyd weithredol. Yn hyn o beth, mae gennyf ddiddordeb arbennig ym mhosibiliadau gwleidyddol celfyddyd a sut mae artist cyfoes yn ymyrryd yn y maes cyhoeddus. Yma, yr wyf yn archwilio strategaethau trawsnewidiol celfyddyd Avant-garde. O ran y cwestiynau hyn, trefnais y gynhadledd ryngwladol"Christoph Schlingensief a'r Avant-Garde"yn y Zie Bielefeld fis Chwefror 2017.

Hefyd, yr wyf yn awyddus i archwilio dulliau ymchwil fel celfyddyd a sut y gall ymchwil ac academi ail-lunio'r cyswllt â'r cyhoedd trwy ymchwil artistig. Yn y cyd-destun hwnnw y dechreuais y project arbrofol "Bellotograph".

Mae diddordebau ymchwil lu i'w cael yn y cysylltiadau sydd â llenyddiaeth a phensaernïaeth ac, yn fwy cyffredinol, yn hanes, diwylliant, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yr Almaen ar ôl 1945, gan gynnwys yr hen GDR. Yn fy nhraethawd doethur, rwy'n edrych ar drosiadau adeiladau ac anheddau yn llenyddiaeth a diwylliant yr Almaen ar ôl y rhyfel a heddiw. Yn ogystal, mae gennyf ddiddordeb yn llenyddiaeth gyfoes yr Almaen yn gyffredinol.)

  1. Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa
  2. Float some, Jettison other. Fluxus by Buoys, Beuys and NWK (Neue Walisische Kunst)

    Sarah Pogoda (Cyfrannwr)

    9 Medi 202219 Medi 2022

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa

  3. Fluxus Café

    Sarah Pogoda (Cyfrannwr)

    16 Tach 2020

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa

  4. From Avant Garde to Afon gad

    Sarah Pogoda (Cyfrannwr)

    1 Meh 202231 Gorff 2022

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa

  5. Metaboliaeth

    Sarah Pogoda (Cyfrannwr)

    19 Awst 202221 Awst 2022

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa

  6. Metamorffosis Festival

    Sarah Pogoda (Cyfrannwr)

    21 Meh 202127 Meh 2021

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa

  7. Metamorffosis Festival

    Sarah Pogoda (Cyfrannwr)

    21 Meh 202127 Meh 2021

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa

  8. The Bellotograph Project

    Sarah Pogoda (Cyfrannwr)

    8 Mai 201512 Mai 2015

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa

  9. This Buoy‘s Life

    Sarah Pogoda (Cyfrannwr)

    29 Tach 202118 Rhag 2021

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa

  10. Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Cyfraniad at waith pwyllgorau a gweithgorau cenedlaethol neu ryngwladol
  11. Meeting of the European Associations for German Studies

    Sarah Pogoda (Cyfrannwr)

    28 Medi 2022

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Cyfraniad at waith pwyllgorau a gweithgorau cenedlaethol neu ryngwladol

  12. Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Ymchwilio a Dysgu mewn Sefydliad Allanol
  13. Verifiktion

    Sarah Pogoda (Cyfrannwr) & Lore Knapp (Darlithydd)

    6 Rhag 2022

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Ymchwilio a Dysgu mewn Sefydliad Allanol

  14. Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd
  15. Christoph Schlingensief and the Avant-Garde

    Sarah Pogoda (Siaradwr)

    26 Ebr 2017

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd

  16. Christoph Schlingensiefs Politik der Autonomie

    Sarah Pogoda (Siaradwr)

    5 Mai 2016

    Gweithgaredd: ArallMathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Anerchiad fel siaradwr gwadd

Blaenorol 1 2 Nesaf