Dr Sarah Pogoda
Darlithydd mewn Astudiaethau Almaenaidd
Contact info
Dysgu
Yn Freie Universität Berlin a'r Humboldt Universität zu Berlin, bûm yn dysgu nifer o fodiwlau ar Astudiaethau Gwleidyddol a Llenyddiaeth Almaeneg yr 20fed ganrif. Fel DAAD-Lektor ym Mhrifysgol Sheffield (2012-2016), bûm yn dysgu modiwlau ar ddiwylliant a chyfryngau Almaeneg cyfoes, celfyddyd, ffilm a pherfformiad yn yr Almaen ar ôl y wal, yn ogystal â modiwlau ar lenyddiaeth gyfoes yr Almaen. Ochr yn ochr â'r dysgu dan arweiniad ymchwil, bûm yn dysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel (ab initio hyd at allu sydd bron cystal â brodorol) ers 2011. Ym Mhrifysgol Bangor, rwy'n dal i ddysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel, yn ogystal â dysgu israddedig ac ôl-radd yn fy maes arbenigedd ymchwil, gan gynnwys e.e. y modiwlau "Culture in Context" (LXE 1600); "Divided Germany" (LXG 2013), "Performing Germany" (LXG 3036), "German Avant-Garde" (LXM 4037) a "Critical Theory" (LXM 4001).
Wrth ddysgu, mae'n well gennyf integreiddio arferion artistig, megis Digwyddiadau ac ymarferion Ysgrifennu Creadigol. Credaf mai dysgu trwy ymarfer yw'r ffordd orau o ddysgu, ond yn bennaf oll, rwyf am ddangos i'r myfyrwyr fod y chwyldro'n dechrau gyda ni ein hunain a'r tu mewn inni ein hunain. Y chwyldro hwn ar yr hunan yn fy marn i yw profiad allweddol bywyd, a bywyd prifysgol yn arbennig. Cefais fy enwebu ar gyfer Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig.
Ymchwil
Mae fy mhrosiect ymchwil cyfredol yn ystyried syniad y ddelwedd symudol yng ngwaith Christoph Schlingensief a sut y caiff ei drawsnewid trwy weithio mewn genres heblaw ffilm, megis cynyrchiadau theatr, dramâu radio a chelfyddyd weithredol. Yn hyn o beth, mae gennyf ddiddordeb arbennig ym mhosibiliadau gwleidyddol celfyddyd a sut mae artist cyfoes yn ymyrryd yn y maes cyhoeddus. Yma, yr wyf yn archwilio strategaethau trawsnewidiol celfyddyd Avant-garde. O ran y cwestiynau hyn, trefnais y gynhadledd ryngwladol"Christoph Schlingensief a'r Avant-Garde"yn y Zie Bielefeld fis Chwefror 2017.
Hefyd, yr wyf yn awyddus i archwilio dulliau ymchwil fel celfyddyd a sut y gall ymchwil ac academi ail-lunio'r cyswllt â'r cyhoedd trwy ymchwil artistig. Yn y cyd-destun hwnnw y dechreuais y project arbrofol "Bellotograph".
Mae diddordebau ymchwil lu i'w cael yn y cysylltiadau sydd â llenyddiaeth a phensaernïaeth ac, yn fwy cyffredinol, yn hanes, diwylliant, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yr Almaen ar ôl 1945, gan gynnwys yr hen GDR. Yn fy nhraethawd doethur, rwy'n edrych ar drosiadau adeiladau ac anheddau yn llenyddiaeth a diwylliant yr Almaen ar ôl y rhyfel a heddiw. Yn ogystal, mae gennyf ddiddordeb yn llenyddiaeth gyfoes yr Almaen yn gyffredinol.)
- 2021
-
This Buoy‘s Life
Sarah Pogoda (Cyfrannwr)
29 Tach 2021 → 18 Rhag 2021Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa
-
GERMAN STUDIES ASSOCIATION
Sarah Pogoda (Siaradwr)
3 Hyd 2021Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd
-
Der Mann im Fahrstuhl
Sarah Pogoda (Siaradwr)
5 Medi 2021Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
-
Peter Lang (Cyhoeddwr)
Sarah Pogoda (Aelod o fwrdd golygyddol)
1 Awst 2021 → 30 Mai 2022Gweithgaredd: Cyhoeddiad adolygiad cymheiriaid a gwaith golygyddol › Gweithgarwch golygyddol
-
IVG 2020 Internationale Vereinigung für Germanistik -
Sarah Pogoda (Siaradwr)
30 Gorff 2021 → 31 Gorff 2021Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd
-
Metamorffosis Festival
Sarah Pogoda (Cyfrannwr)
21 Meh 2021 → 27 Meh 2021Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa
-
Metamorffosis Festival
Sarah Pogoda (Cyfrannwr)
21 Meh 2021 → 27 Meh 2021Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa
-
Dada. Or: How to treat your hobby horse with multi-lingual soap.
Sarah Pogoda (Siaradwr)
18 Ion 2021Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
- 2020
-
Fluxus Café
Sarah Pogoda (Cyfrannwr)
16 Tach 2020Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa
-
Open Mike 2020. Poesiewettbewerb (Digwyddiad)
Sarah Pogoda (Cadeirydd)
11 Tach 2020 → 12 Tach 2020Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelodaeth o bwyllgor
-
AGS - Association for German Studies in Great Britain and Ireland (Sefydliad allanol)
Sarah Pogoda (Cadeirydd)
1 Medi 2020 → …Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelodaeth o bwyllgor
-
-
- 2019
-
Klassengesellschaft reloaded
Sarah Pogoda (Siaradwr)
10 Medi 2019 → 11 Medi 2019Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd
-
Cracking the established Order
Sarah Pogoda (Siaradwr)
26 Meh 2019 → 27 Meh 2019Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd
-
Treat Art with Dada
Sarah Pogoda (Cyfrannwr)
8 Meh 2019Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Darlith/trafodaeth/seminar gyhoeddus
-
Institutional Critique in Contemporary Theatre and Performance
Sarah Pogoda (Siaradwr)
2 Mai 2019Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
-
Sich einrichten. Zur Poetik und Semiotik des Wohnens seit 1850
Sarah Pogoda (Siaradwr)
11 Ebr 2019 → 13 Ebr 2019Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd
-
-
Moving Stories von Gwynedd and Anglesey
Sarah Pogoda (Cynghorydd)
28 Ion 2019 → 30 Meh 2019Gweithgaredd: Arall
-
The Transformative Power of Performance
Sarah Pogoda (Siaradwr)
24 Ion 2019Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Cyflwyniad llafar
- 2018
-
Public Engagement as Social Structure - Research as Art in Public Engagement
Sarah Pogoda (Siaradwr)
25 Hyd 2018Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Alexander Kluge Lighthouses into Futurity
Sarah Pogoda (Cyfrannwr)
29 Awst 2018 → 12 Medi 2018Gweithgaredd: Arall › Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Gŵyl/Arddangosfa
-
Recording video interview with Alexander Kluge
Sarah Pogoda (Cyfrannwr)
21 Gorff 2018Gweithgaredd: Arall
Arbeit am Bild Christoph Schlingensief und die Tradition
Sarah Pogoda (Siaradwr)
18 Mai 2018Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd