Dr Sarah Pogoda
Darlithydd mewn Astudiaethau Almaenaidd
Contact info
Dysgu
Yn Freie Universität Berlin a'r Humboldt Universität zu Berlin, bûm yn dysgu nifer o fodiwlau ar Astudiaethau Gwleidyddol a Llenyddiaeth Almaeneg yr 20fed ganrif. Fel DAAD-Lektor ym Mhrifysgol Sheffield (2012-2016), bûm yn dysgu modiwlau ar ddiwylliant a chyfryngau Almaeneg cyfoes, celfyddyd, ffilm a pherfformiad yn yr Almaen ar ôl y wal, yn ogystal â modiwlau ar lenyddiaeth gyfoes yr Almaen. Ochr yn ochr â'r dysgu dan arweiniad ymchwil, bûm yn dysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel (ab initio hyd at allu sydd bron cystal â brodorol) ers 2011. Ym Mhrifysgol Bangor, rwy'n dal i ddysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel, yn ogystal â dysgu israddedig ac ôl-radd yn fy maes arbenigedd ymchwil, gan gynnwys e.e. y modiwlau "Culture in Context" (LXE 1600); "Divided Germany" (LXG 2013), "Performing Germany" (LXG 3036), "German Avant-Garde" (LXM 4037) a "Critical Theory" (LXM 4001).
Wrth ddysgu, mae'n well gennyf integreiddio arferion artistig, megis Digwyddiadau ac ymarferion Ysgrifennu Creadigol. Credaf mai dysgu trwy ymarfer yw'r ffordd orau o ddysgu, ond yn bennaf oll, rwyf am ddangos i'r myfyrwyr fod y chwyldro'n dechrau gyda ni ein hunain a'r tu mewn inni ein hunain. Y chwyldro hwn ar yr hunan yn fy marn i yw profiad allweddol bywyd, a bywyd prifysgol yn arbennig. Cefais fy enwebu ar gyfer Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig.
Ymchwil
Mae fy mhrosiect ymchwil cyfredol yn ystyried syniad y ddelwedd symudol yng ngwaith Christoph Schlingensief a sut y caiff ei drawsnewid trwy weithio mewn genres heblaw ffilm, megis cynyrchiadau theatr, dramâu radio a chelfyddyd weithredol. Yn hyn o beth, mae gennyf ddiddordeb arbennig ym mhosibiliadau gwleidyddol celfyddyd a sut mae artist cyfoes yn ymyrryd yn y maes cyhoeddus. Yma, yr wyf yn archwilio strategaethau trawsnewidiol celfyddyd Avant-garde. O ran y cwestiynau hyn, trefnais y gynhadledd ryngwladol"Christoph Schlingensief a'r Avant-Garde"yn y Zie Bielefeld fis Chwefror 2017.
Hefyd, yr wyf yn awyddus i archwilio dulliau ymchwil fel celfyddyd a sut y gall ymchwil ac academi ail-lunio'r cyswllt â'r cyhoedd trwy ymchwil artistig. Yn y cyd-destun hwnnw y dechreuais y project arbrofol "Bellotograph".
Mae diddordebau ymchwil lu i'w cael yn y cysylltiadau sydd â llenyddiaeth a phensaernïaeth ac, yn fwy cyffredinol, yn hanes, diwylliant, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yr Almaen ar ôl 1945, gan gynnwys yr hen GDR. Yn fy nhraethawd doethur, rwy'n edrych ar drosiadau adeiladau ac anheddau yn llenyddiaeth a diwylliant yr Almaen ar ôl y rhyfel a heddiw. Yn ogystal, mae gennyf ddiddordeb yn llenyddiaeth gyfoes yr Almaen yn gyffredinol.)
- Cyhoeddwyd
Mappening I - Tomen Gachu: Map o Gymru
Pogoda, S., 9 Meh 2022Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Arteffact
- Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg
Nachlass
Pogoda, S., 15 Mai 2024, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Schlingensief-Handbuch: Leben – Werk – Wirkung. J.B.MetzlerAllbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Peter de Mendelssohn: Intellektueller zwischen den Stühlen und vergessener Romanautor
Pogoda, S., 2011, Verfolgt und umstritten! : Remigrierte Künstler im Nachkriegsdeutschland. Grisko, M. & Wenzel, H. (gol.). Frankfurt am Main: Peter Lang, t. 213-222 9 t.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Re-Inventing the Live Event - Blog
Pogoda, S., 30 Meh 2022Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Safe Gwe / Cyhoeddiad Gwe
- Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg
Re-inventing live events, re-inventing communities
Pogoda, S. & Colbourne, L., 15 Meh 2023, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Bridging distance in the Creative Industries.Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Rezension: Lore Knapp, Formen des Kunstreligiösen. Peter Handke— Christoph Schlingensief
Pogoda, S., 16 Rhag 2021, Yn: Forum Modernes Theater. 32, 2, t. 308-310Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Rezension: Rosmarie Zeller, “Letztenendes bleibt doch nur die Kunst.” Studien zu Christoph Geisers Texten.
Pogoda, S., Hyd 2021, Yn: Gegenwartsliteratur. Ein germanistisches Jahrbuch (A German Studies Yearbook).. 20Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Roland Innerhofer: Architektur aus Sprache. Korrespondenzen zwischen Literatur und Baukunst 1890-1930
Pogoda, S., 1 Mai 2023, Yn: Musil-Forum. Studien zur Literatur der klassischen Moderne. 37, t. 391-395Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Sarah Ralfs: Theatralität der Existenz. Ethik und Ästhetik bei Christoph Schlingensief
Pogoda, S., 1 Ebr 2023, Yn: [rezens.tfm]. 2023, 1Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl adolygu › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Sentencing and Disembowelment of Surrealism by NWK
Pogoda, S., 23 Awst 2020Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Perfformiad