Dr Sarah Pogoda
Darlithydd mewn Astudiaethau Almaenaidd
Contact info
Dysgu
Yn Freie Universität Berlin a'r Humboldt Universität zu Berlin, bûm yn dysgu nifer o fodiwlau ar Astudiaethau Gwleidyddol a Llenyddiaeth Almaeneg yr 20fed ganrif. Fel DAAD-Lektor ym Mhrifysgol Sheffield (2012-2016), bûm yn dysgu modiwlau ar ddiwylliant a chyfryngau Almaeneg cyfoes, celfyddyd, ffilm a pherfformiad yn yr Almaen ar ôl y wal, yn ogystal â modiwlau ar lenyddiaeth gyfoes yr Almaen. Ochr yn ochr â'r dysgu dan arweiniad ymchwil, bûm yn dysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel (ab initio hyd at allu sydd bron cystal â brodorol) ers 2011. Ym Mhrifysgol Bangor, rwy'n dal i ddysgu'r iaith Almaeneg ar bob lefel, yn ogystal â dysgu israddedig ac ôl-radd yn fy maes arbenigedd ymchwil, gan gynnwys e.e. y modiwlau "Culture in Context" (LXE 1600); "Divided Germany" (LXG 2013), "Performing Germany" (LXG 3036), "German Avant-Garde" (LXM 4037) a "Critical Theory" (LXM 4001).
Wrth ddysgu, mae'n well gennyf integreiddio arferion artistig, megis Digwyddiadau ac ymarferion Ysgrifennu Creadigol. Credaf mai dysgu trwy ymarfer yw'r ffordd orau o ddysgu, ond yn bennaf oll, rwyf am ddangos i'r myfyrwyr fod y chwyldro'n dechrau gyda ni ein hunain a'r tu mewn inni ein hunain. Y chwyldro hwn ar yr hunan yn fy marn i yw profiad allweddol bywyd, a bywyd prifysgol yn arbennig. Cefais fy enwebu ar gyfer Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig.
Ymchwil
Mae fy mhrosiect ymchwil cyfredol yn ystyried syniad y ddelwedd symudol yng ngwaith Christoph Schlingensief a sut y caiff ei drawsnewid trwy weithio mewn genres heblaw ffilm, megis cynyrchiadau theatr, dramâu radio a chelfyddyd weithredol. Yn hyn o beth, mae gennyf ddiddordeb arbennig ym mhosibiliadau gwleidyddol celfyddyd a sut mae artist cyfoes yn ymyrryd yn y maes cyhoeddus. Yma, yr wyf yn archwilio strategaethau trawsnewidiol celfyddyd Avant-garde. O ran y cwestiynau hyn, trefnais y gynhadledd ryngwladol"Christoph Schlingensief a'r Avant-Garde"yn y Zie Bielefeld fis Chwefror 2017.
Hefyd, yr wyf yn awyddus i archwilio dulliau ymchwil fel celfyddyd a sut y gall ymchwil ac academi ail-lunio'r cyswllt â'r cyhoedd trwy ymchwil artistig. Yn y cyd-destun hwnnw y dechreuais y project arbrofol "Bellotograph".
Mae diddordebau ymchwil lu i'w cael yn y cysylltiadau sydd â llenyddiaeth a phensaernïaeth ac, yn fwy cyffredinol, yn hanes, diwylliant, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth yr Almaen ar ôl 1945, gan gynnwys yr hen GDR. Yn fy nhraethawd doethur, rwy'n edrych ar drosiadau adeiladau ac anheddau yn llenyddiaeth a diwylliant yr Almaen ar ôl y rhyfel a heddiw. Yn ogystal, mae gennyf ddiddordeb yn llenyddiaeth gyfoes yr Almaen yn gyffredinol.)
- 2022
- Cyhoeddwyd
- Cyhoeddwyd
- 2021
- Cyhoeddwyd
Rezension: Lore Knapp, Formen des Kunstreligiösen. Peter Handke— Christoph Schlingensief
Pogoda, S., 16 Rhag 2021, Yn: Forum Modernes Theater. 32, 2, t. 308-310Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Der Zuschauer als Schaffender. Christoph Schlingensiefs filmische Sehschule
Pogoda, S., 15 Tach 2021, Arbeit am Bild: Christoph Schlingensief und die Tradition: Schlingensief and Tradition. Scheinpflug, P. & Wortmann, T. (gol.). Fink Verlag, t. 43-66Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Golchi+
Pogoda, S., Samina Ali, Lisa Hudson, Lindsey Colbourne & Wanda Zyborska, 9 Tach 2021Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Cynyrch Digidol neu Gweledol
- Cyhoeddwyd
Rezension: Rosmarie Zeller, “Letztenendes bleibt doch nur die Kunst.” Studien zu Christoph Geisers Texten.
Pogoda, S., Hyd 2021, Yn: Gegenwartsliteratur. Ein germanistisches Jahrbuch (A German Studies Yearbook).. 20Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
The Redundancy: Ein Produktionsbericht
Pogoda, S., Ion 2021, Klassengesellschaft reloaded und das Ende der menschlichen Gattung.: Fragen an Heiner Müller. Strehlow, F. & Ette, W. (gol.). Theater der Zeit, t. 139-169 30 t. (Recherchen; Rhif 154).Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
- 2020
- Cyhoeddwyd
Sentencing and Disembowelment of Surrealism by NWK
Pogoda, S., 23 Awst 2020Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Perfformiad
- Cyhoeddwyd
Wer über Schlingensief redet, muss selbst von ihm gepackt sein! Christoph Schlingensief und die künstlerische Forschung
Pogoda, S., 1 Awst 2020, Christoph Schlingensief: Resonanzen. Höving, V., Wortmann, T. & Holweck, K. (gol.). Munich: text+kritik, t. 154-171Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
Germany is not Texas. Finding reunified Germany in the Rural: Christoph Schlingensief’s The German Chain Saw Massacre
Pogoda, S., 4 Mai 2020, Cine-Excess, 4.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyhoeddiad arbenigol › Erthygl