Agweddau ar brofiad merch yn oes Fictoria: Dwy nofel hanesyddol

Electronic versions

Dogfennau

  • Eiddwen Jones

    Meysydd ymchwil

  • PhD, School of Welsh and Celtic Studies

Abstract

Ceir yn y portffolio creadigol hwn ddwy nofel hanesyddol sydd yn edrych ar agweddau ar brofiadau merch yn Oes Fictoria. Dilynir y ddwy nofel gan drafodaeth feirniadol sydd yn olrhain cefndir y ddwy nofel, yr elfennau canolog ynddynt a’r hyn a fu’n sbardun iddynt. Mae profiadau merch yn ganolog i’r ddwy nofel.Mae’r nofel gyntaf, Ddoe a Heddiw’n Un, yn sôn am foddi Dyffryn Efyrnwy ym Maldwyn er mwyn darparu cyflenwad ychwanegol o ddŵr i ddinas Lerpwl ar derfyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.Mae’n stori sydd wedi ei hen anghofio gan bobl Cymru, fel y trafodir yn y drafodaeth ddilynol. Hyd yn oed yn y cyfnod pan foddwyd y dyffryn, anwybyddwyd trigolion yr hen Lanwddyn i bob pwrpasgan gyfryngau newyddion yr oes. Yn y nofel ceir hanes un teulu arbennig yng nghanol y chwalfa – eu trallod, a’u profedigaethau teuluol, a’r rheiny’n digwydd yn erbyn cefndir boddi’r dyffryn. Gan mai’r un yw profiadau pobl o bob oes, plethir i mewn i’r stori hanes teulu cyfoes a chanddynt gysylltiad â Llanwddyn a Lerpwl.Ddoe a Heddiw’n Un sydd yn ffurfio cnewyllyn y portffolio. Hon yw’r nofel fwyaf swmpus o’r ddwy a gyflwynir, a hon hefyd yw’r fwyaf soffistigedig ei gwead a’i themateg. O ganlyniad, mae’r drafodaeth feirniadol yn canolbwyntio’n helaeth ar y broses o lunio’r nofel hon.
Teitl yr ail nofel yw Cwlwm Creulon. Mae hon yn nofel fyrrach a luniwyd yn yr un cyfnod â Ddoe a Heddiw’n Un, ac sydd yn arddangoselfennau tebyg o ran dull ymadrodd, ymchwil a themâu. Oherwydd hyn, nid aethpwyd i’r un manylder wrth drafod ei llunio, gan osgoi dyblygu’r drafodaeth. Pwysleisir mai nofel a luniwyd yn Saesneg yn wreiddiol oedd hon, ac iddi gael ei haddasu gennyf i’r Gymraeg. Mae hon yn nofel sydd wedi ei lleoli ym Mostyn, Sir y Fflint, a hefyd yn Kirkby in Furness, Cumbria. Cawn yma hanes Phoebe Hughes, morwyn yn y Caeau Gwylltion, fferm fawr yn ardal Mostyn, yn beichiogi o ganlyniad i’w pherthynas rywiol ag Ifan Lloyd, gwas yn y Coed Isaf, fferm gyfagos. Dangosir sut y mae’r ferch yn gorfod ysgwyddo’r cyfrifoldeb pan fo’r beichiogi’n digwydd, a darlunnir sut y mae cymdeithas y cyfnod yn ymateb i ddigwyddiad o’r fath,
Teitl yr ail nofel yw Cwlwm Creulon. Mae hon yn nofel fyrrach a luniwyd yn yr un cyfnod â Ddoe a Heddiw’n Un, ac sydd yn arddangoselfennau tebyg o ran dull ymadrodd, ymchwil a themâu. Oherwydd hyn, nid aethpwyd i’r un manylder wrth drafod ei llunio, gan osgoi dyblygu’r drafodaeth. Pwysleisir mai nofel a luniwyd yn Saesneg yn wreiddiol oedd hon, ac iddi gael ei haddasu gennyf i’r Gymraeg. Mae hon yn nofel sydd wedi ei lleoli ym Mostyn, Sir y Fflint, a hefyd yn Kirkby in Furness, Cumbria. Cawn yma hanes Phoebe Hughes, morwyn yn y Caeau Gwylltion, fferm fawr yn ardal Mostyn, yn beichiogi o ganlyniad i’w pherthynas rywiol ag Ifan Lloyd, gwas yn y Coed Isaf, fferm gyfagos. Dangosir sut y mae’r ferch yn gorfod ysgwyddo’r cyfrifoldeb pan fo’r beichiogi’n digwydd, a darlunnir sut y mae cymdeithas y cyfnod yn ymateb i ddigwyddiad o’r fathnt.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
    Dyddiad dyfarnuIon 2014