Astudiaeth o Ddylanwad Celtigrwydd ar Lyfrau Teithio Cymraeg am Lydaw ac Iwerddon yn yr Ugeinfed Ganrif

Electronic versions

Dogfennau

  • Llyr Titus Hughes

    Meysydd ymchwil

  • Celtigrwydd, Llenyddiaeth Deithio, Llenyddiaeth Taith, O. M. Edwards, W. Ambrose Bebb, John Dyfnallt Owen, Llydaw, Iwerddon, Cymru, Cymreictod, Hunaniaeth, Celtiaid, Catholigiaeth, Clive James, Ioan Roberts, Myfi Williams, Matthew Arnold, Doethur mewn Athroniaeth (PhD)

Abstract

Y mae hon yn astudiaeth sydd yn trafod effeithiau Celtigrwydd ar lyfrau teithio Cymraeg yn yr ugeinfed ganrif gan ganolbwyntio ar Lydaw ac Iwerddon.
Yn y bennod gyntaf gosodir cyd-destun i’r trafodaethau a geir yn y penodau dilynol wrth drafod ‘Celtigrwydd’ a ‘Cheltiaid’ fel cysyniadau gan rannu’r bennod yn gyfres o is-adrannau. Ynddynt, tynnir ar feysydd ysgolheictod clasurol, archaeoleg, genynneg ac efrydiau Cymreig a rhoddir sylw i’r portreadau o Geltigrwydd a Cheltiaid yn y dychymyg poblogaidd yn ogystal. Trafodir hirhoedledd y cysyniadau a’r cymhlethdod sydd wrth geisio defnyddio labeli o’r fath er bod elfennau hanesyddol ac archaeolegol yn rhan o’u sylfaen. Yna eir ati i ddiffinio genre llenyddiaeth teithio fel modd o osod fframwaith ar gyfer y dadansoddiad testunol gan nodi beth yw nodweddion cyffredinol y genre a sut y mae rhai agweddau ohono’n wahanol mewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig.
Ym mhennod dau canolbwyntir ar Lydaw gan drafod mewn tair is-adran dri thestun canolog: Tro yn Llydaw (1896/1921) gan O. M. Edwards, O Ben Tir Llydaw (1937) gan John Dyfnallt Owen, a Pererindodau (1941) gan W. Ambrose Bebb. Gwelir sut y bu i ddarlun Edwards nid yn unig fod yn un cynrychioliadol o werthoedd y Gymru Gymraeg Anghydffurfiol wrth edrych ar wlad Geltaidd arall ond hefyd yn un tra dylanwadol. Cynigir golwg wahanol ar Lydaw gan Dyfnallt a dadleuir iddo gynnig darlun amgen fel ymateb uniongyrchol i Edwards. Gwelir hefyd bod y testun yn adlewyrchu’r diddordeb cynyddol mewn Celtigrwydd yng Nghymru. Dangosir yn y drydedd is-adran sut y mae Bebb yntau yn arddel cysylltiad ag Edwards a sut yr ymagweddai at Lydaw fel ymwelydd cyson â hi ac fel un a ymgorfforai mewn rhai agweddau obeithion pan-Geltaidd hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif.
Yn y drydedd bennod canolbwyntir ar ail hanner yr ugeinfed ganrif ac ar Iwerddon, gan ddadlau bod y canfyddiad ohoni fel gwlad yn rhannu tebygrwydd a gwahaniaethau gyda’r un o Lydaw. Trafodir tair cyfrol unwaith eto; Tro yn Iwerddon (1964) gan Myfi Williams, Iwerddon (1993) gan Clive James a Pobol Drws Nesa (2008) gan Ioan Roberts, a thrwy hynny trafodir rhwng y ddwy wlad rychwant o’r ganrif ar ei hyd. Cynigir darlun o’r newid mewn ymagweddiad crefyddol tuag at Gatholigiaeth gan Williams wrth iddi droi at gyfeiriad mwy goddefgar na’r portreadau cynharach. Wrth drafod cyfrol James gwelir bod y gyd-berthynas Geltiadd erbyn degawd olaf y nawdegau wedi datblygu’n ffaith ddiwylliannol a gymerir yn ganiataol. Yn olaf trafodir cyfrol Roberts, un sydd yn cynnig golwg ar berthynas yr awdur ag Iwerddon am dros bedwar degawd, ac sydd, o’r herwydd, yn cynnig golwg tra defnyddiol ar ddatblygiad y berthynas rhwng Cymru a hi.
Daw’r traethawd i glo wrth gasglu bod Celtigrwydd yn syniadaeth hirhoedlog, eang ei hapêl. Trafodir sut yr etifeddwyd syniadau am Geltigrwydd a hanfod y ‘Celtiaid’ gan ffynonellau allanol. Rhoddir golwg hefyd ar sut y’u defnyddiwyd i gynnig darluniau amrywiol o Iwerddon a Llydaw a oedd eto’n rhannu rhai nodweddion tebyg gan y cyfrolau a astudiwyd. Yna’n olaf myfyrir ar effaith a dylanwad Celtigrwydd heddiw gan ddod â’r drafodaeth i gyd-destun cyfoes.
Yn yr Atodiad cynhwysir darluniau o gyfrol Myfi Williams fel modd o enghreifftio sut y cyflwynir darlun penodol o Iwerddon, nid yn unig yn destunol ond hefyd yn weledol o fewn ei chyfrol.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
  • Peredur Lynch (Goruchwylydd)
Noddwyr traethodau hir
  • Arts and Humanities Research Council (AHRC)
Dyddiad dyfarnu31 Maw 2022