Cerddi mawl Robin Ddu o Fôn
Electronic versions
Dogfennau
PhD Heledd Haf Williams 2012.pdf
1.52 MB, dogfen-PDF
- PhD, School of Welsh and Celtic Studies
Meysydd ymchwil
Abstract
Ceir yn y traethawd hwn olygiad beirniadol o gerddi mawl o waith dilys Robin Ddu o Fôn. Cynhwyswyd y cerddi sydd yn moli pobl yn unig, a hepgorwyd y cerddi hynny sydd yn moli gwrthrychau eraill, megis llong. Ceir deuddeg cerddyn y casgliad, gan gynnwys un cywydd crefyddol, sydd yn fawl i Dduw (cerdd 1); cywydd brud, sydd yn farwnad i Owain Tudur (cerdd 11);a golygiad Bleddyn Owen Huws o gywydd gofyn(cerdd 12).Ceir nifer o gerddi brud a briodolir i Robin Ddu sydd hefyd yn cyfeirio at gymeriadau blaenllaw yn Rhyfeloedd y Rhosynnau, ac yn eu moli–y Tuduriaid, er enghraifft.Fodd bynnag, ni ellir eu cyfrif hwy yn gerddi mawl.Lluniwyd rhagymadrodd i’r testun, sydd yn ymdrin â’r hyn sydd yn hysbys am Robin Ddu. Ceir ymdriniaeth â’r cerddi nas golygwyd; yna, ceir gwybodaeth am y llawysgrifau a ddefnyddiwyd wrth lunio’r golygiad. Ar ôl y testun, ceir nodiadau esboniadol ar y cymeriadau a’r lleoedd a enwir yn y cerddi, ynghyd â geiriau sydd â’u hystyron yn amwys. Lluniwyd geirfa ar ddiwedd y gwaith.
Details
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
---|---|
Sefydliad dyfarnu | |
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd |
|
Noddwyr traethodau hir |
|
Dyddiad dyfarnu | Ion 2012 |