Cynyddu amlygiad plant i'r Gymraeg: Dylanwad rhaglenni cyw ar ddatblygiad geirfa plant a'u hadnabyddiaeth o reolau cystrawennol

Electronic versions

Dogfennau

Abstract

Mae ymchwil ym maes seicoieithyddiaeth wedi amlygu pwysigrwydd amlder mewnbwn a rhyngweithio i sicrhau caffaeliad llwyddiannus o iaith ac mae’r patrymau hyn o drosglwyddo iaith yn cael eu defnyddio i gefnogi damcaniaethau blaengar megis Tomosello (2000) a Gathercole (2007). Bwriad yr ymchwil hwn oedd archwilio dull penodol o gynyddu amlygiad plant a theuluoedd L1 Saesneg i fodelau L1 Cymraeg trwy ddefnydd o’r teledu. Gan seilio’r fethodoleg ar ddulliau ymchwil arbrofol, cymharodd Astudiaeth 1 effaith gwylio rhaglenni teledu Cymraeg, wrth neu heb ryngweithio gydag oedolyn, ag effaith gwrando ar straeon Cymraeg neu Saesneg ar ddatblygiad iaith Gymraeg plant L1 Saesneg 4 i 5 mlwydd oed tra yn yr ysgol. Dangosodd y canlyniadau gynnydd yn bennaf yn adnabyddiaeth y plant oedd wedi gwylio’r teledu o eirfa Gymraeg, gyda mymryn o gynnydd o ran gramadeg, ond roedd y cynnydd mwyaf amlwg pan roedd yr ymchwilydd yn rhyngweithio gyda'r plant yn ystod y gwylio. Edrychodd Astudiaeth 2 ar effaith rhaglenni teledu Cymraeg ar blant L1 Saesneg 2 i 3 blwydd oed yn y cartref. Er nad oedd cynnydd amlwg i’w weld o ran y Gymraeg, roedd y teledu yn fodd o amlygu’r plant i batrymau iaith nad oedd yn gyfarwydd iddyn nhw a hynny mewn ffordd lle’r oedd y plant yn cael mwynhad. Aeth Astudiaeth 3 ati i ganfod agwedd rhieni tuag at y teledu fel cyfrwng a thuag at ddwyieithrwydd a’r Gymraeg, gan ymholi am arferion gwylio teledu yn y cartref ac unrhyw ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth @TiFiaCyw sy’n annog rhieni di-Gymraeg i ryngweithio gyda’u plant tra’n gwylio rhaglenni Cyw. Datgelodd y canlyniadau gefnofaeth i’r cysyniad y tu ôl i’r gwasaneth, ond prin oedd y defnydd o’r gwasanaeth hwnnw. Mae angen rhagor o waith i sicrhau ei fod wedi ei farchanta’n effeithiol ar gyfer y gynulleidfa darged. Mae goblygiadau'r canfyddiadau hyn ar gyfer agweddau penodol ar addysg ddwyieithog a chynllunio ieithyddol bwriadus, ynghyd â’u cyfraniad i ddamcaniaethau ymchwil, yn cael eu trafod.

Details

Iaith wreiddiolSaesneg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Noddwyr traethodau hir
  • Knowledge Economy Skills Scholarship
  • S4C Digital Media Limited
Dyddiad dyfarnuIon 2016