Diwylliant ar waith: astudiaethau gwerin o Gymru

Electronic versions

  • Robin Gwyndaf

Abstract

Cynhwysir yn y gwaith hwn ddeg cyfraniad ym maes astudiaethau gwerin neu
ethnoleg: wyth yn Saesneg, un yn Gymraeg, ac un yn ddwyieithog. Y thema
ganolog yw diwylliant gwerin ar waith: diwylliant byw, gweithredol, sy'n cael ei
greu a'i ail-greu o'r newydd a'i gynnal drwy gyfathrach pobl a'i gilydd. Yn y
cyflwyniad olrheinir datblygiad astudiaethau gwerin ym Mhrydain, Ewrop ac
America, gan fanylu'n arbennig ar Gymru; cyfeirir at rai o'r datblygiadau cyffrous diweddar ym maes astudio ethnoleg, a nodir hefyd y prifystyriaethau ymchwil y rhoddwyd sylw penodol iddynt yn y gwaith hwn, megis pwysigrwydd testun a chyd-destun, ystyr a swyddogaeth.
Ffurf a swyddogaeth coelion gwerin, ddoe a heddiw, yw pwnc yr astudiaeth
gyntaf, ac y mae'r ail yn ymdrin ag arferion gwerin a'r modd y mae cymdeithas
gymdogol yn cynnal breichiau teuluoedd mewn profedigaeth. Storïau gwerin
yw'r pwnc yn astudiaethau 3-6. Ymdrinnir a thraddodiad maith y stori werin yng
Nghymru; cyflwynir testun deuddeg stori ddigri yn eu cyd-destun Ewropeaidd, a
thestun un eitem ar hugain o naratif, sef profiadau personol (memorat) a chwedlau lleol (sagen), yn ymwneud a'r gred yn y Tylwyth Teg. Yna manylir ar un chwedl boblogaidd: Chwedl Llyn y Fan Fach a Meddygon Myddfai, gyda sylw arbennig i adeiladwaith, perthnasedd, ystyr a swyddogaeth y chwedl.
Prif destun gweddill yr astudiaethau ( cyfrolau 2-3) yw cynheiliaid traddodiad a'u cynhysgaeth. Mewn un cyfraniad cynigir canllawiau ar gyfer astudio ymateb cynheiliaid traddodiad i fywyd (world-view, Weltanschaaung, världsbild). Mewn astudiaeth arall ('Personality and Folklore in Action') cyflwynir rhai ystyriaethau ar gyfer astudio cynhysgaeth digrifwr cyfoes. Yn y portread o'r canwr gwerin Emrys Jones, Llangwm, neilltuwyd saith o'r penodau i sôn am ddylanwad bro a theulu ac etifeddiaeth ddiwylliannol. Yn olaf, cyflwynir detholiad o dystiolaeth lafar helaeth Lewis T Evans (1882-1975), yn cynnwys crynodeb o'i dapiau (1-134); testun (wedi'i gyfieithu i'r Saesneg) o 85 stori werin (ynghyd â chyflwyniad, nodiadau, teipiau a motifau), a thrafodaeth gyffredinol: 'Memory in Action'. Ar derfyn cyfrol 3 cynhwysir llyfryddiaeth.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
  • University of Wales, Bangor
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
  • Branwen Jarvis (Goruchwylydd)
  • Gwyn Thomas (Goruchwylydd)
Dyddiad dyfarnu2001