Enwau pentrefi, prif anheddau a chaeau pum plwyf yn arfon: Llanbeblig, Llandwrog, Llanfaflan, Llanrug a Llanwnda

Electronic versions

Dogfennau

  • Glenda Carr

    Meysydd ymchwil

  • PhD, School of Welsh and Celtic Studies

Abstract

Astudiaeth sydd yma o enwau Ileoedd mewn pum plwyf yn Arfon, sef Llanbeblig, Llandwrog, Llanfaglan, Llanrug a Llanwnda. Rhestrir ac esbonir enwau'r plwyfi, y pentrefi a'r pentrefanau, y prif anheddau, y caeau ac unrhyw nodwedd ddaearyddol sydd yn elfen yn yr enwau hynny, megis enwau rhai afonydd, Ilynnoedd, mynyddoedd neu fryniau. Astudiaeth doponymig yw hon yn bennaf, ond ar yr un pryd ceisir cynnwys unrhyw ffeithiau o ddiddordeb Ilenyddol, chwedlonol, hanesyddol neu ddaearyddol sydd ynghlwm wrth yr enwau eu hunain, a'r anheddau a'r caeau a drafodir. Mae'n bwysig cofio nad enwau yn unig sydd Pr mannau a drafodir, ond Ilu o draddodiadau a chysylltiadau o bob math. Lie bo modd, ceisir hefyd gyfeirio at enghreifftlau eraill o'r enwau, o Gymru yn bennaf, ond cyfeirir at enghreifftiau cyfatebol yn Lloegr Ile bo hynny'n berthnasol. Yn y rhagymadrodd trafodir rhai o nodweddion ieithyddol yr enwau, yn enwedig y rhai tafodieithol. Ceir adran yn y rhagymadrodd hefyd ar dystiolaeth yr enwau, sef yr hyn a ddysgir ohonynt am natur y gymcleithas a'r ardal yn gyffredinol. Ar ddiwedd y traethawd ceir mynegai Hawn Wr holl elfennau a gynhwysir yn yr enwau Ileoedd sydd yn yr astudiaeth hon. Rhestfir yno bob enw Ile sydd yn cynnwys yr elfen clan sylw. Eglurir ystyr pob elfen yn ei thro yn Gymraeg ac yn Saesneg, a Ile bo hynny'n berthnasol, cynhwysir unrhyw gytrasau Wr ieithoedd Celtaidd eraill. Rhestfir hefyd bob enw personol sydd yn elfen yn yr enwau Ileoedd, a Ile bu'n bosib ceisiwyd o1rhain rhywfaint o hanes y teuluoedd a'r unigolion hyn.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
  • Bangor University
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
  • Hywel Wyn Owen (Unigolyn allanol) (Goruchwylydd)
Dyddiad dyfarnuIon 2007