Gwaith barddonol Ieuan ap Gruffudd Leiaf, Robert Leiaf, Syr Siôn Leiaf a Rhys Goch Glyndyfrdwy

Electronic versions

Dogfennau

  • John Taylor

    Meysydd ymchwil

  • PhD, School of Welsh and Celtic Studies

Abstract

Amcan y gwaith a gyflwynir yma yw ymchwilio i waith barddonol y Lleiafiaid ynghyd â Rhys Goch Glyndyfrdwy, a golygugwaith y beirddhyny gellir ei ystyried yn ddilys, gan ddilyn, mwy neu lai,y drefn a fabwysiadwyd yn y gyfres Beirdd yr Uchelwyr. Defnyddiwyd MFGLl ac MCF i gael rhestr ragarweiniol o gerddi ar gyfer pob bardd, ac wedyn addasu’r rhestrau yng ngolwg yr hyn a wyddys am waith beirdd eraill a’r cyd-destun hanesyddol. Cafwyd hyd i bob enghraifft lawysgrifol o’r cerddi detholedig, acfe’u golygwyd yn y ffordd a ddisgrifir yn yr adran Dull y Golyguisod. Fel yn y gyfres Beirdd yr Uchelwyr, ceir nodiadau esboniadol i bob cerdd a olygir.Gruffudd Leiaf yw’r hynaf o’r Lleiafiaid, ac er bod MFGLl ac MCF yn rhestru dwy gerdd wrth ei enw, ni ellir priodoli’r naill na’r llall iddo’n hyderus. Dihareb ar ffurf englyn (heb enw wrthoar y cyfan) yw un, a’r llall yn gywydd a briodolir i sawl bardd, gan gynnwys ei wyrion Robert Leiaf a Syr Siôn Leiaf, a Dafydd ap Gwilym. Golygir y cywydd hwn yma fel gwaith Robert Leiaf.
Cysylltir enw Ieuan ap Gruffudd Leiaf, mab Gruffudd Leiaf, â’r traddodiad canu brud gan rai, eithrdau gywydd brud a olygir yma fel gwaithdichonadwy’rbardd. Y mae cyfnod y cyfansoddi yn ymestyn o tua 1420 i tua1450 ac efallai y tu hwnt. Trawiadol felly yw canran y gynghanedd sain (hyd at ryw 60%) yn rhai o gerddi’r bardd.Golygir saith o gerddi fel gwaith Robert Leiaf, gan gynnwys dau gywydd gofyn, cywydd dychan i’r dylluan, cywydd i Galais a’i milwyr, cywydd i’r fernagl a chywydd i bedair merch y Drindod. Dau gywydd yn unig a olygir yma fel gwaith Syr Siôn Leiaf. Y mae un yn foliant i Risiart Cyffin, Deon Bangor a dychan i Guto’r Glyn, Hywel Grythor a Gwerful Mechain. Cywydd serch yw’r llall.Chwe cherdd gan Rys Goch Glyndyfrdwy a ystyrir yma fel gwaith dilys y bardd, gan gynnwys tri chywydd i deulu’r Pilstwniaid o Emral, Maelor Saesneg. Y maeei farwnad i Siôn ap Rhosier (rhif 19)yn neilltuol o gain.
Y mae gwaith y beirdd a ystyrir yma yn rhychwantu’r genresarferol a gysylltir â beirdd y ‘ganrif fawr’. Er bod nifer y cerddi a briodolir i fardd unigol yn gymharol fach, y mae rhywbeth diddorol ym mhob un ohonynt, bron, a gobeithir bod y golygiad llawn a gyflwynir yma yn fodd teilwng o ddathlu bywydau a gwaithy beirdd hyn.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Dyddiad dyfarnuIon 2014