Hanes a thystiolaeth eglwys y bedyddwyr, y tabernacl, Caerfyrddin, 1650-1968, yng nghyd-destun datblygiad ymneilltuaeth Gymreig

Electronic versions

Dogfennau

  • Desmond Davies

Abstract

O ganlyniad i lafur nifer o haneswyr disglair, o ddyddiau Joshua Thomas (1718/19-1797) hyd heddiw - haneswyr y pwyswyd yn drwm ar eu cyhoeddiadau wrth baratoi'r traethawd hwn - y mae hynt a helynt Ymneilltuaeth Gymraeg wedi ei gofnodi'n bur gyflawn a manwl erbyn hyn. Ynghyd â'r dadansoddiad hwn o ddylanwad Ymneilltuaeth ar genedl gyfan yn ystod y tair canrif a hanner ddiwethaf, cyhoeddwyd hefyd, yng nghwrs y blynyddoedd, nifer sylweddol o gyfrolau, fawr a mân, yn cofnodi hanes eglwysi unigol, lleol oddi mewn i'r traddodiad Ymneilltuol. Diben y llyfrau hyn fu olrhain dechreuadau achos penodol oddi mewn i gymuned neilltuol, gan ddadansoddi'r ffactorau amlycaf yn ei gynnydd, ac, yn y mwyafrif o enghreifftiau, ei ddirywiad (oddi ar y Rhyfel Byd I), ynghyd â'r prif ffeithiau am y rhai a fu'n weinidogion ac yn arweinwyr yn yr eglwys, ac unrhyw ddigwyddiadau eraill o bwys. Dyma, hefyd, un o brif ddibenion y traethawd hwn, sef croniclo a gwerthuso hanes eglwys y Bedyddwyr a fu'n ymgynnull, o 1812 hyd heddiw, yng nghapel y Tabernacl Caerfyrddin, ac sydd â'i gwreiddiau'n ymestyn yn ôl at gyfnod bore Piwritaniaeth Gymraeg. Adroddir ei hanes yn gronolegol, ac fe'i rhennir yn benodau ac is-adrannau yn cyfateb i gyfnodau gwasanaeth y sawl a fu'n weinidogion iddi. Barnwyd mai hon, yn ddiau, fyddai'r ffordd hwylusaf a mwyaf trefnus i ddosrannu'r
deunydd.
Eithr ynghyd ag adrodd stori yr un eglwys hon, amcenir at ddangos sut yr oedd
hanes y Tabernacl yn cydredeg â'r hyn a oedd yn digwydd ar lwyfan genedlaethol, a sut yr oedd tueddiadau cenedlaethol yn cael eu hadlewyrchu, yn fynych iawn, yn y sefyllfa leol yng Nghaerfyrddin. Bwriedir dangos sut y trodd hanes yr un gynulleidfa hon yn ddrych o dynged yr enwadau Ymneilltuol yn gyffredinol. Terfynir yr ymchwil ar ddiwedd cyfnod gweinidogaeth James Thomas yn 1968. Gwneir hynny, nid yn unig am fod hynny'n cwmpasu tair canrif gron, ond hefyd am fod yr hanes o hynny ymlaen yn cynnwys y cyfnod o ddwy flynedd ar hugain (sef o 1975 hyd 1978; ac o 1988 hyd y presennol) o'm bugeiliaeth innau yn eglwys y Tabernacl. Bwriedir, yn y dyfodol agos, cwblhau'r bennod ddiweddaraf hon, yn atodiad i'r gwaith, ond barnwyd, ar gyfrif fy ymwneud personol innau a'r hanes, mai amhriodol fyddai ei gynnwys yn glo i thesis academaidd.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
  • University of Wales, Bangor
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
  • Densil Morgan (Goruchwylydd)
Noddwyr traethodau hir
  • Cronfa Ravenhill
Dyddiad dyfarnu2006