‘Mae’r Beibl o’n tu’: Y dadleuon Beiblaidd ynghylch caethwasiaeth ar dudalennau gwasg gyfnodol Gymraeg America, 1838-1868

Electronic versions

Dogfennau

  • Gareth Hugh Evans-Jones

Abstract

Amcan yr astudiaeth hon yw archwilio rôl y Beibl ymysg Cymry America’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth iddynt ymateb i gaethwasiaeth, un o brif heriau eu gwlad fabwysiedig. Ymdriniwyd â’r mater yn helaeth ar dudalennau gwasg gyfnodol Gymraeg America, a defnyddid testunau Beiblaidd a chysyniadau Cristnogol yn fynych er mwyn trafod yr hyn a ystyrid gan amryw yn un o ‘bechodau mwyaf ysgeler’ yr Unol Daleithiau. Gan fod y diwylliant print yn hynod ddylanwadol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, canolbwyntia’r traethawd hwn ar yr ymateb llenyddol a gafwyd i gaethwasiaeth gan Gymry America yn eu cyfnodolion a gyhoeddid yn ystod y cyfnod 1838-1868: oes aur y wasg gyfnodol Gymraeg yn yr Unol Daleithiau. Er mwyn ystyried eu defnydd o’r Beibl yng nghyd-destun y broblem gyfoes, archwilir defnydd Cymry America o bedwar testun neu thema Feiblaidd unigol ym mhedair pennod gyntaf y thesis. Cynnwys y rhain: Cham a Gomer, deddfau’r Pumllyfr a’r Jiwbili, y Gaethglud ym Mabilon, ac Iesu a’r Testament Newydd. Wrth asesu’r modd y defnyddiwyd y testunau a’r themâu hyn, ystyrir pa mor debyg yr oedd ymdriniaeth gwahanol awduron ohonynt. Yn ogystal, ymholir i ba raddau yr oedd holl Gymry America’n gwrthwynebu caethwasiaeth, ac a oedd rhai, mewn gwirionedd, wedi parhau i gefnogi’r gyfundrefn ar bwys y Beibl. Mae’r bumed bennod o natur wahanol i’r rhelyw gan y cymerir cyfraith a basiwyd gan lywodraeth yr Unol Daleithiau, a oedd yn arwyddocaol i’r ymgyrch diddymol, Cyfraith Caeth Ffoëdig 1850 fel astudiaeth achos, ac ystyrir y modd yr ymatebwyd iddi ar seiliau Beiblaidd. Awgrymir yn y bennod hon i radicaliaeth y Cymry ei hamlygu ei hun ymhellach yn sgil pasio cyfraith ddadleuol 1850. Daw’r thesis i glo drwy bwyso a mesur arwyddocâd y dadleuon Beiblaidd mewn trafodaethau ynglŷn â chaethwasiaeth, a chasglu i’r Ysgrythur fod yn ddylanwadol yng ngweithgarwch llenyddol, gwleidyddol a chymdeithasol hil Gomer yr Unol Daleithiau.

Details

Iaith wreiddiolSaesneg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Noddwyr traethodau hir
  • Arts and Humanities Research Council (AHRC)
Dyddiad dyfarnuIon 2017