Nofel hanes a rhagymadrodd
Electronic versions
Dogfennau
123 MB, dogfen-PDF
Abstract
Cyflwynir yma nofel hanes ynghyd a rhagymadrodd sy'n cofnodi'r modd yr
aethpwyd ati i ymchwilio ac i ysgrifennu'r nofel. Lleolir y nofel ym Mhen Llŷn
ganol yr ail ganrif ar bymtheg, yn y cyfnod a arweiniai at ddechrau'r Rhyfel
Cartref yn Awst 1642.
Yn y gyfrol gyntaf ceir y Rhagymadrodd, sy'n adrodd hanes yr ysgogiadau oedd
yn fan cychwyn i'r nofel. Rhoddir braslun o'r cefnidr hanesyddol Prydeinig
ynghyd a chefndir rhai o'r cymeriadau hanesyddol a oedd, er nad yn ymddangos
yn uniongyrchol yn y nofel, â dylanwad pendant ar fywydau cymeriadau'r nofel.
Yn yr ail ran edrychir ar y ffordd y crewyd byd y ferch yn y nofel, sef yr agweddau moesol, cyfreithiol, crefyddol a chymdeithasol oedd yn llunio a dylanwadu ar bersonoliaethau merched y cyfnod.
Yn y drydedd ran trafodir y wybodaeth hanesyddol sydd ar gael am y cymeriadau gwrywaidd, a'r ffordd yr aethpwyd ati i roddi cig ar yr esgyrn sychion hynny ar sail ymchwil i arferion a daliadau'r cyfod.
Yn y bedwaredd ran ystyrir i ddechrau y nofel o ran beirniadaeth lenyddol
ffeministaidd. Edrychir hefyd ar nodweddion y nofel gyffro (thriller) a'r dirgelwch llofruddiaeth (murder mystery) yng nghyd-destun y nofel, ac yn olaf trafodir y nofel yng nghyd-destun beirniadaeth lenyddol hanesyddol.
Yn yr ail gyfrol, ceir y nofel Dygwyl Eneidiau yn ei chrynswth, gyda map, coeden
deulu Bodwrda a rhestr o'r cymeriadau.

Details
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
---|---|
Sefydliad dyfarnu |
|
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd | |
Dyddiad dyfarnu | Medi 2006 |