O'r sect i'r enwad datblygiad enwadau ymneilltuol Cymru, 1840-1870.

Electronic versions

Dogfennau

  • Alan Tudur

Abstract

Yn y traethawd hwn trafodir y newidiadau a ddigwyddodd ym mywyd inewnol ac yn ethos y pedwar corff Ymneilltuol yng Nghynlru rhwng 1840 a 1870. Y thesis y ceisir ei ddatblygu yw fod y newidiadau hyn o dipyn i bath wedi eu gweddnewid. Yng nhorff y traethawd fe wneir defnydd o dermau a theorlau'r cymdeithasegwyr sydd weds astudio crefydd and nid heb geisio ystyried yn feirniadol i ba raddau y gellir gwneud defnydd dilys ohonynt yng nghyd-destun hanes crefydd yng Nghymru. Ymddengys fod eu diffiniadau o 'sect' ac 'enwad' yn gynorthwyol. Felly canolbwyntir ar fywyd mewnol y Cyrff crefyddol. Dadansoddir eu hymarweddiad a'u hegwyddorion fei cymdeithasau Cristnogol yn hytrach na'u gweithgareddau allanol, cymdeithasol a gwleidyddol. Gan hynny, yn ystod y drafodaeth, astudir yn ofalus eu hagwedd at eu harwahanrwydd, at y ddisgyblaeth eglwysig, at y 'ddyletswydd deuluaidd', at ymddygiad wrth addoli, at anffurfioldeb, at bregethu, at y Fugeiliaeth, at addysg, at berthynas gyda chyrff cýrjfyddol eraill, at ddiwygiadau, at gynllun a phensaerniaeth capeli ac Pt gyfundrefnu. Wrth dafoli arwyddoc&d y cyfnewidiadau, daw'n eglur sut yr oedd y cyrff Ymneilltuol yn eu haddasu eu hunain i gyfarfod her cyfnod cynhyrfus yn hanes Cymru. Daethant o dipyn i beth yn enwadau a deimlai gyfrifoldeb tuag at y byd seciwiar a thuag at y genedl. Bu i'r newid o sectyddiaeth i enwadyddiaeth esgor ar ganlyniadau yr oedd eu dylawad i'w gweld ymhell i'r ugeinfed ganrif. Proses graddol a chymleth oedd hwn yn dylanwadu ar bob agwedd ar fywyd mewnol y Cyrff and y ddadl yw fod y newid mwyaf arwyddocaol wedi digwydd rhwng 1840 a 1870.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
  • Prifysgol Bangor
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
    Dyddiad dyfarnuIon 1992