'Os gwêl Bangor ei debyg eto, bydd gwyn ei byd'

  • Elen Keen

    Meysydd ymchwil

  • Cerddoriaeth Cymru, Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, J. Lloyd Williams, Harry Reichel, canu gwerin, alawon gwerin, trefniannau, Canorion, Aelwyd Angharad, Cadifor, Prifysgol Bangor, cerddoriaeth ym Mangor, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, Botaneg, casglu alawon gwerin, Ceinion y Canorion, opereta, Tra Bo Dau

Abstract

Ymdriniaeth o gyfraniad John Lloyd Williams (1854-1945) fel cyfansoddwr a chyfarwyddwr cerdd yn ystod ei gyfnod fel aelod o staff yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (1897-1914) a geir yn yr astudiaeth hon. Er mai Botaneg oedd ei briod faes, roedd hefyd yn gerddor dawnus, yn addysgwr ysbrydoledig, yn ysgolhaig blaenllaw, yn genedlgarwr brwd ac yn brif ladmerydd cerddoriaeth draddodiadol Cymru yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Agor y maes yw diben y bennod gyntaf sy’n cwmpasu deugain mlynedd cyntaf ei fywyd, drwy edrych ar ei blentyndod yn Llanrwst, ei yrfa fel myfyriwr yn Y Coleg Normal (Bangor) ac fel prifathro yng Ngarndolbenmaen.

Tra’n mynychu cyrsiau hyfforddiant a threulio cyfnodau’n ymchwilio i wymon a phlanhigion prin, manteisiai J. Lloyd Williams ar gyfleoedd i fynychu perfformiadau cerddorol, yn enwedig operâu, a maes o law, trodd at gyfansoddi operetau. Tanio’r ymwybyddiaeth o genedligrwydd Cymreig ymysg yr ifanc yng Nghricieth oedd ei fwriad wrth lunio’r opereta, Aelwyd Angharad (1899) a cheir trosolwg o’r gwaith yn ogystal â’r ddrama gerdd, Cadifor (1902) yn yr ail bennod. Daeth llwyddiant ysgubol i ran Aelwyd Angharad a phrofodd yn boblogaidd ymysg cynulleidfaoedd ledled Cymru, Lloegr a’r Wladfa ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif. Roedd i’r cyfanwaith hwn arwyddocâd diwylliannol ac ystyrir ei waddol yn y bennod ddilynol sy’n ymdrin â rhai o’r cwmnïau a lwyfannodd y gwaith.

Perfformiwyd Aelwyd Angharad droeon gan fyfyrwyr Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor o dan ei arweiniad, a daeth yn Ddarlithydd Cynorthwyol yn yr Adran Fotaneg (1897) yn ogystal ag yn Gyfarwyddwr Cerdd rhan amser y sefydliad. Chwaraeodd ran allweddol yn yr ymgyrch i geisio Cymreigio seremonïau a digwyddiadau cyhoeddus y Brifysgol, gyda chefnogaeth y Prifathro Harry Reichel, ac o ganlyniad cafwyd datganiadau o alawon Cymreig ar lwyfan cyhoeddus ac ymdriniaeth o’i gyfraniad arloesol fel Cyfarwyddwr Cerdd a geir yn y bedwaredd bennod.

Braenarwyd y tir ym Mangor yn ystod y cyfnod hwnnw a phan sefydlwyd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon (1906) pwysleisiwyd yr angen i gasglu a chywain yr alawon a llunio trefniannau ohonynt a’u dwyn i olau dydd. Ystyriwyd J. Lloyd Williams yn un o’r casglyddion gorau yn hanes cynnar Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac ysbrydolwyd eraill i gofnodi alawon yn yr un modd. Un o’r datblygiadau arwyddocaol yn hanes yr ymgyrch oedd sefydlu cymdeithas Y Canorion ymhlith myfyrwyr Bangor (1907) gyda’r nod o gasglu a pherfformio’r alawon ac mae’r bumed bennod yn amlinellu eu cyfraniad allweddol hwy i faes cerddoriaeth Gymreig.

Cyfansoddwyd opereta arall gan J. Lloyd Williams, sef ‘Y Canorion’ (1908), a’i bwriad oedd dwyn sylw i’r gwaith casglu ymhlith aelodau cymdeithas Y Canorion, rhoi llwyfan i’w canfyddiadau ac amlinellu’r dulliau a ddefnyddiwyd i’w cofnodi. Er na chyhoeddwyd yr opereta, ymddangosodd Ceinion y Canorion, sef casgliad unigryw o drefniannau ar gyfer lleisiau SATB o waith J. Lloyd Williams (ca. 1909) ac fel y gwelir ym mhennod chwech, bu’n adnodd gwerthfawr yng Nghymru am flynyddoedd lawer wedyn.
Y bwriad ym mhenodau saith i naw yw craffu ar ei arddull cyfansoddi ac ymdrin ag agweddau o’r casgliadau cyhoeddedig o drefniannau a luniodd hyd at 1914 yn ogystal â’r gweithiau llawysgrifol. Cynhwysir cysodiad o opereta Aelwyd Angharad ac ‘Y Canorion’ fel Atodiad i’r astudiaeth yn ogystal â fersiynau hen nodiant o drefniannau a gyhoeddwyd yn Ceinion y Canorion, ‘Rhaglen Gosod Carreg Sylfaen Adeiladau Newydd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru’ (1907), trefniannau a luniwyd ar gyfer cymdeithas Y Canorion, trefniannau SATB a rhai i lais a phiano.

Ystrydeb yw dweud na dderbyniodd J. Lloyd Williams y clod haeddiannol am ei weithgarwch a’i gyfraniad i faes cerddoriaeth werin yng Nghymru, ond hyderir fod yr astudiaeth hon yn gam i wneud iawn am hynny.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
Dyddiad dyfarnu15 Maw 2024

Cyhoeddiadau (7)

Gweld y cyfan