Tystiolaeth barddoniaeth Gymraeg ynghylch lle'r ferch yn ei Chymdeithas yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol Cynnar

Electronic versions

Dogfennau

  • Elisa Moras

Abstract

Yn y traethawd hwn dilynir datblygiad canu i ferched yn llysoedd Cymru yn yr
oesoedd canol cynnar gan ystyried y darlun a gyflwynir o fyd a bywyd aelodau
benywaidd y llysoedd hynny. Ystyrir yn gyntaf ran merched ym myd rhyfelgar
y Cynfeirdd, a'u rôl yn y portread o'r delfryd arwrol lle disgwylid i ddynion ddangos cadernid ar faes y gad ac addfwynder yn y llys. Cawn yng Nghanu
Heledd fawl i fonedd merched a'u gallu i ddifyrru'r llys, a dilynwn ddatblygiad
y darlun delfrydol hwn o ferched uchelwrol diddan ac ymateb cwrtais gwyr
bonheddig y llys iddynt o'i wreiddiau yn yr Hengerdd hyd at ei benllanw yng
nghanu'r Gogynfeirdd.
Trafodir hefyd yr elfennau o ganu rhyfel a chanu natur a geir yn y cerddi i ferched, a dylanwad y traddodiadau hyn ar y canu. Casglir ynghyd ddisgrifiadau'r beirdd o'r arglwyddesau gan ystyried yr amrywiol ddulliau a
ddefnyddid i gyfleu eu bonedd. Gwelir mai pwysleisio'u huchelwriaeth oedd amcan y disgrifiadau o rinweddau ac ymddygiad y merched hefyd, ac elfen
bwysig o hyn oedd eu dawn wrth ddarparu adloniant i'r llys - boed hynny drwy
eu sgwrs ddiddan neu eu gallu i ddenu beirdd i ganu yn eu llysoedd. Ystyrir hefyd i ba raddau yr oedd y merched hyn yn noddi ac yn cynnal y beirdd hynny a ganai iddynt hwy ac i'w gwesteion.
Yn olaf edrychir ar gymeriad y bardd yn y canu, a'r rôl a grea iddo'i hun fel carwr gwrthodedig. Cyrnherir ymateb ymostyngol y Gogynfeirdd i ferched y llys ag ymddygiad disgwyliedig yr arwyr delfrydol yng nghyfnod yr Hengerdd gerbron merched eu llysoedd hwy.

Details

Iaith wreiddiolSaesneg
Sefydliad dyfarnu
  • University of Wales, Bangor
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
  • Gwyn Thomas (Goruchwylydd)
Noddwyr traethodau hir
  • Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen
Dyddiad dyfarnuAwst 2001