Yr Awdurdodaeth Gymreig: Dadansoddiad o Ddatblygiad a Chyfraniad Tribiwnlysoedd Cymreig i Awdurdodaeth Gyfreithiol ar wahân i Gymru

Electronic versions

Dogfennau

  • Huw Pritchard

Abstract

Amcan yr ymchwil yw cyfrannu at y drafodaeth gyfredol ynglŷn â sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru. Drwy edrych ar y tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru, sef y tribiwnlysoedd Cymreig, yn benodol mae modd cydnabod bod awdurdodaeth eisoes yn bodoli a bod rhai grymoedd gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru dros weinyddu cyfiawnder. Mae tribiwnlysoedd yn cael eu cydnabod fel rhan bwysig o awdurdodaethau’r Deyrnas Unedig erbyn hyn. Felly, mae’r ffaith bod gan Gymru dribiwnlysoedd sy’n gweinyddu’r gyfraith ar gyfer Cymru’n unig yn arwyddocaol ac yn dangos bod awdurdodaeth Cymru a Lloegr eisoes wedi cychwyn gwahanu mewn rhai ffyrdd. Mae hynny’n gosod sail ar gyfer ystyried y grymoedd sydd gan Gymru yn barod a sut mae modd adeiladu ar y sylfaen hwnnw er mwyn datganoli grymoedd cyfiawnder pellach. Edrychir ar ddatblygiad systemau tribiwnlysoedd datganoledig cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon er mwyn ystyried beth yw’r anghenion a’r heriau ar gyfer datblygu systemau tebyg. Ystyrir a oes diwygiadau y gellir eu haddasu i Gymru o’r systemau hynny. Yn sgil hynny, gwneir argymhellion am faterion penodol y dylid eu diwygio er mwyn hybu datganoli cyfiawnder ymhellach i Gymru. Mae hynny’n cynnwys datblygu gwasanaethau a strwythurau gweinyddu cyfiawnder Cymreig yn ogystal â datblygiadau mwy ymarferol ynglŷn â gweinyddu cyfiawnder y gellir eu gwneud yn y tymor byr a’r tymor hir. O ganlyniad, mae modd i’r tribiwnlysoedd Cymreig ddarparu’r sylfaen ar gyfer system gyfreithiol ar wahân ehangach i Gymru yn y dyfodol.

Details

Iaith wreiddiolCymraeg
Sefydliad dyfarnu
Goruchwylydd / Goruchwylwyr / Cynghorydd
  • Dewi Jones (Goruchwylydd)
Noddwyr traethodau hir
  • Coleg Cymraeg Cenedlathol
Dyddiad dyfarnuIon 2015