Adfer yr hyn a gollwyd dan yr eira: T. James Jones a Dylan Marlais Thomas

Electronic versions

Documents

    Research areas

  • PhD, School of Welsh and Celtic Studies, llenyddiaeth, berddoniaeth, cyfieithu

Abstract

Eir i’r afael yn y thesis hwn â gwaith y bardd a’r llenor T. James Jones, neu Jim Parc Nest (1934–) fel y’i hadwaenir hefyd, gan ganolbwyntio ar un agwedd bwysig ar ei yrfa lenyddol doreithiog, sef ei ymwneud â Dylan Thomas (1914–1953). Yn y bennod gyntaf, byddir yn ystyried dylanwad Thomas ar yrfa gynnar Jones, gan ddangos mai ei ddiddordeb yng ngwaith y bardd hwn a’i hysbrydolodd i ddechrau barddoni, i gystadlu mewn eisteddfodau ac i drosi drama radio enwog Thomas – Under Milk Wood – i’r Gymraeg. Under Milk Wood a Dan y Wenallt yw pwnc yr ail a’r drydedd bennod. Byddir yn yr ail bennod yn trafod yr ymateb beirniadol i Under Milk Wood a Dan y Wenallt, gan roi sylw arbennig i’r drafodaeth hirhoedlog (a checrus ar adegau) a geir yng Nghymru ar Gymreictod Dylan Thomas a dylanwad y Gymru Gymraeg ar ei waith. Trafodir yn y drydedd bennod y broses o drosi Under Milk Wood i’r Gymraeg. Archwilir yn y bennod hon resymau T. James Jones dros gyfieithu’r ddrama, sef ‘adfer’ Cymreictod Llaregyb, a’r dulliau cyfieithu a ddefnyddir ganddo i gyflawni ei nod o Gymreigio’r testun. Byddir yn y bedwaredd bennod yn trafod yr ymateb creadigol i Dan y Wenallt, sy’n cynnwys cyfieithiad ‘gogleddol’, anghyhoeddedig Eigra Lewis Roberts o Under Milk Wood. Ceir yn y bumed bennod astudiaeth destunol drylwyr ar fersiynau Cymraeg T.James Jones o gerddi Dylan Thomas: ‘Fern Hill’, ‘After the funeral’, ‘Do not go gentle into that good night’, ‘And death shall have no dominion’, ‘Once it was the colour of saying’ a ‘The hunchback in the park’. Ystyrir pam y dewisodd Jones drosi’r cerddi hyn, cyn craffu’n fanwl ar y broses o’u cyfieithu. Rhoddir sylw i’w fersiynau Cymraeg o ryddiaith Dylan Thomas yn y chweched bennod: ‘Quite Early One Morning’, ‘A Visit to Grandpa’s’ a ‘Return Journey’. Fel yn y bumed bennod, byddir yn ystyried pam y dewisodd drosi’r union destunau hyn i’r Gymraeg, gan ganolbwyntio’n bennaf ar agweddau thematig a chysyniadol. Ymdrinnir yn y seithfed bennod â phenllanw ymgyrch T. James Jones i ‘adfer’ Cymreictod Dylan Thomas, sef ei ddrama radio anghyhoeddedig a ddarlledwyd ar BBC Radio Cymru yn 2014: Dylan yn Fern Hill. Yn dilyn y drafodaeth ar y ddrama yn y seithfed bennod, dangosir yn y bennod olaf fod yr ymgyrch i adfer Cymreictod Llaregyb yn y 1960au wedi datblygu, yn ystod cwrs gyrfa doreithiog T. James Jones, yn ymgyrch i amlygu ac adfer Cymreictod Dylan Thomas fel bardd a llenor. At hyn, byddir yn cloi’r bennod a’r thesis drwy drafod ffotograff tra diddorol o ‘Dylan Marlais’ – delwedd sy’n crisialu gweledigaeth T. James Jones a’i holl ymwneud â’r bardd hwn.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Bangor University
Supervisors/Advisors
Award date2020