Agweddau ar gender, iaith ac addysg yng Nhgymru

Electronic versions

Documents

  • Philip Lowies

Abstract

Amcan yr ymchwil yw astudio sefyllfa merched Cymraeg eu hiaith yn y Gymru gyfoes, gan ganolbwyntio ar agweddau ar addysg a'r modd y mae'n effeithio ar eu dewisiadau gyrfaol a'u cyfleon bywyd. Cychwynir trwy osod y gwaith yn ei gyd-destun priodol, gan olrhain datblygiad y Gymraeg o gyfnod y Ddeddf Uno hyd at yr amser presennol, a gweld sut mae ffactorau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a chrefyddol wedi effeithio ar ei datblygiad. Yna gan gyfeirio at ystadegau Cyfrifiad 1991, ystyrir dosbarthiad yr iaith yn y Gymru gyfoes, yn arbennig o safbwynt gender.· Lleolir y drafodaeth ·ynghylch cyfleon rrierched yn y farchnad lafur yng nghyd-destun theoriau ffeministaidd ac economegol. Rhoddir sylw i'r ddadl ynghylch 'gwaith', a'r modd y mae cymdeithas batriarchaidd yn gweld rol _y ferch tel un · gynhaliol ac ategol at waith dy_n. Ystyrir yr anawsterau sy'n wynebu merched yn y farchnad lafur, gan roddi sylw arbennig i ardal gogledd Cymru. Yna edrychir ar beth yw rol y system addysg mewn cynhyrchu merched a dynion sydd ag agweddau neilltuol tuag at safle merched yn ein cymdeithas. Gwelir svt mae'r 'cwricwlwm cudd' yn gweithredu i atgynhyrchu gwerthoedd a chysylltiadau grym gwrywaidd-ddominyddol, a sut mae'r rhain yn eu tro'n arwain at sianelu merched i rannau cyfyng o'r farchnad lafur. Ystyrir datblygiadau mewn addysg trwy'r Gymraeg, a sut mae iaith a gerider yn ddau ffactor sy'n rhyngweithio a'i gilydd i gynhyrchu merched a dynion sydd gyda sgiliau, cymwysterau,. ac agweddau penodol. Mae'r gwaith maes sy'n dilyn yn ceisio asesu dylanwad iaith a gender ar ddisgyblion dwy ysgol uwchradd yn Ynys Mon, y nail! yn gyfrwng-Saesneg a'r llall yn ysgol ddwyieithog. Gwelir sut mae'r system addysg yn atgyfnerthu'r gwerthoedd . y gymdeithas ehangach, a sut mae iaith yn ff actor sy'n ychwanegu at gymhlethdod yr holl broses.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
    Award dateFeb 2000