Agweddau ar lenyddiaeth ffantasi ar gyfer plant yn y Gymraeg

Electronic versions

Documents

  • Nia Bleddyn

Abstract

Py mwriad yn y traethawd hwn yw trafod agweddau ar ffantasi trwy ystyried datblygiad a nodweddion ffuglen ffantasi i blant. Yna, dadansoddir detholiad o ffuglen Gymraeg yn ystod y ganrif hon mewn dwy brif adran: 'Llenyddiaeth ffantasi anthropomorffaidd' a 'Llenyddiaeth ffantasi am fyd neu wlad ddychmygol'. Fe wneir hynny ar sail y nodweddion a geir mewn ffuglen ffantasi. Ym mhennod un, byddaf yn ymdrin a bodolaeth seicolegol ffantasi mewn unigolion a'r modd y mae ffuglen ffantas'iol yn medru dylanwadu ar fywydau plant, pobl ifainc ac oedolion. Trafodir y cysylltiad clos rhwng byd ffantasi a'r byd go iawn a'r modd y mae ffuglen ffantas1ol yn medru ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth unigolyn wrth feithrin hunan ymwybyddiaeth. Y n yr ail bennod, byddaf yn ymdrin a'r nodweddion a geir mewn ffuglen ffantasi gan ystyried y modd y gellir rhannu'r ffuglen hwn yn is-adrannau testlus. Byddaf yn dadansoddi dwy o'r is-adrannau hyn ar sail detholiad o ffuglen Gymraeg yn ystod y ganrif hon ym mhenodau pedwar a phump. Yn y drydedd bennod, fe ymdriniaf a datblygiad ffantasi fel cyfrwng yn Lloegr a Chymru gan grybwyll ffuglen ffantasi a fu'n arwyddocaol i'r datblygiad yma yn y ddwy wlad. Cyfeiriaf at y dylanwadau a sicrhaodd fodolaeth i lenyddiaeth ffantasi yn ogystal a'r cynnydd a welwyd mewn ffuglen ffantasi yn ystod y ganrif hon. Dadansoddir detholiad o lenyddiaeth ffantasi anthropomorffaidd ar sail nodweddion ffuglen ffantasi yn y bedwaredd bennod, sef llenyddiaeth yn cynnwys anifeiliaid, teganau neu wrthrychau anhebygol eraill sy'n meddu ar briodweddau dynol. Fe rennir y bennod hon yn bum is-adran. Mae pedair adran wedi'u rhannu ar sail y cymeriadau a geir yn y straeon; 'Moch', 'Llygod', 'Teganau' a 'Moduron ac elfennau' ac mae'r burned adran yn ymdrin a gweithiau tri awdur sef Jennie Thomas, John Ellis Williams a J. 0. Williams. Dadansoddir detholiad o lenyddiaeth ffantasi am fyd neu wlad ddychmygol ar sail nodweddion ffuglen ffantasi yn y burned bennod. Gwneir hynny mewn dwy is-adran; ffuglen yn portreadu cymeriadau yn mynd i mewn i fyd neu wlad ddychmygol a ffuglen yn portreadu cymeriadau mewn plot o fyd neu wlad ddychmygol cyfan gwbl. Mae'r aiJ is-adran yn ymdrin a ffuglen gan ddwy awdures sef Pwt a Moi a Pwt a'r Cawr gan Elizabeth Watkin-Jones a Cyfres Rwdlan gan Angharad Tomos. Ym rnhennod glo'r traethawd hwn, cyfeiriaf at y dylanwadau a sicrhaodd fodolaeth gref i lenyddiaeth ffantasi yng Nghymru erbyn diwedd wythdegau'r ganrif hon. Gwneir hynny trwy blethu fymateb personal i i ddatblygiad a gwerth llenyddiaeth ffantasi ar gyfer plant yn y Gymraeg. Nid yw cyfresi darllen yn rhan o'r ymdriniaeth hon ond rwyf yn cydnabod gwaith arloesol Mary Vaughan Jones ym myd ffantasi a chynlluniau megis 'Cynllun y Ddraig' gan Y Cyngor Ysgolion. Nid wyf ychwaith wedi ystyried Uned Ffantasi: Cynllun y Porth na'r gyfres 'Straeon a Chwedl' gan Emily Huws ac Elfyn Pritchard sy'n gyfres o ddarllen gwirfoddol ar gyfer plant rhwng 7 ac 11 oed wedi cael ei chynllunio o ran geirfa a chystrawen i'r oedrannau hyn. Mae'r deunydd a ddewiswyd yn rhoddi pwyslais ar ddeunydd darllen gwirfoddol plant rhwng 7 a 12 oed ac nid yw addasiadau yn rhan o'r deunydd hwnnw.

Details

Original languageEnglish
Awarding Institution
  • University College of North Wales, Bangor
Supervisors/Advisors
    Award date1995