Agweddau ar y nofel hanes Gymraeg i blant

Electronic versions

Documents

  • Heulwen Hydref Parri

Abstract

Astudiaeth o'r nofel hanes Gymraeg i blant a geir yn y traethawd yma. Yn rhan gyntaf y traethawd fe edrychir ar y nofel hanes fel ffurf gan roddi diffiniad o'r hyn a olygir wrth ddefnyddio'r term 'nofel hanes'. Fe restrir gwerth y maes llenyddol yma i'r darllenwyr ac yna fe gyfeirir at y problemau sydd yn wynebu awduron straeon a nofelau hanes wrth iddynt fynd ati i ysgrifennu. Yn ogystal ceir golwg ar y seicoleg sydd y tu ~l i ddysgu hanes pan edrychir ar waith arbenigwyr a fu'n ymchwilio yn y maes, arbenigwyr megis Oakden a Sturt. Wrth ddarllen am eu hymchwiliadau hwy penderfynwyd y gel lid ceisio A addasu eu gwaith gan wneud ymchwiliadau tebyg a phlant y nawdegau yma yng Ngwynedd. Fe welir canlyniadau'r ymchwil hwnnw yn ystod rhan gyntaf y traethawd a cheir cop~au o atebion holiaduron y plant yn yr atodiad ar ddiwedd y traethawd. Yna i gloi'r rhan gyntaf fe geir golwg gryno ar ddatblygiad y nofel hanes yn yr iaith Saesneg a'r Gymraeg o'i hymddangosiad cyntaf -pan welodd Waverley, nofel Walter Scott, olau dydd ym 1814 -hyd y cyfnod presennol. Yng nghorff y traethawd fe astudir gwaith detholiad o awduron Cymraeg. Edrychir ar waith pedwar awdur a fu'n flaenllaw ym maes y nofel hanes yn ystod yr ugeinfed ganrif -E. Morgan Humphreys, Elizabeth Watkin Jones, T. Llew Jones ac yna Gweneth Lilly. Wrth edrych ar eu gwaith fe ystyriwyd y nofelau neu'r straeon rheini a ymdriniai ~ hanes cyn 1900. Wrth ddyfynnu o'u gweithiau mae'n bwysig nodi bod hynny wedi'i wneud gan ddilyn orgraff wreiddiol y nofelau a'r straeon. Yna i gloi y traethawd fe fwrir golwg ar safle'r nofel hanes ar ddiwedd y ganrif yma yng Nghymru gan dynnu sylw at yr awduron y manylwyd ar eu gwaith yn gynharach yn y traethawd ac ar gyfres y Cyd-bwyllgor Addysg a ddaeth o'r wasg ym 1990.

Details

Original languageEnglish
Awarding Institution
  • University College of North Wales, Bangor
Supervisors/Advisors
    Award date1996