Allfudiaeth pobl ifanc o'r bröydd Cymraeg

Electronic versions

Documents

  • Lowri Anwen Cunnington Wynn

Abstract

Mae'r astudiaeth hon yn ystyried allfudiaeth pobl ifanc o'r broydd Cymraeg o safbwynt sampl o bobl ifanc 15-18 oed a 19-25 oed sydd naill ai wedi eu geni tu allan i'rbroydd neu yn hanu o deuluoedd ymfudol. Sylfaenwyd yr astudiaeth ar waith Hywel M Jones (2010) a'i ganfyddiad o ddadansoddi ystadegau Cyfrifiadau bod pobl ifanc a anwyd tu allan i Gymru oddeutu bedair gwaith yn fwy tebygol o fudo allan o Gymru nag yw pobl ifanc a anwyd yng Nghymru, er yr ymddengys eu bod yn integreiddio' n Hawn i'r cymdeithasau hynny. Ystyriwyd yn ogystal gwaith Williams a Morris (2000) sydd yn trafod cynhyrchu ac atgynhyrchu grwpiau iaith leiafrifol ac effaith newidiadau economaidd ar allu'r grwpiau iaith hyn i atgynhyrchu eu hunain. Edrychir yn fanwl ar fewnfudiaeth ac allfudiaeth o'r broydd, effeithiau mudo ar iaith ac integreiddio, newid economaidd, mudo ac iaith ac yn ogystal, ceir ystyriaeth i raddfeydd integreiddio cymdeithasol pobl ifanc. Defnyddiwyd cyfuniad o ddulliau ansoddol a meintiol mewn gwaith ymchwil gwreiddiol i astudio dyheadau a gobeithion y bobl ifanc hynny ar gyfer y dyfodol, oedd yn caniatau archwiliad manwl o ' r dewisiadau a wnaed a'r rhesymau dros y dewisiadau hynny. Wrth rannu' r sampl i ddwy haen oed, roedd modd ymchwilio i fam ac ystyriaethau' r bobl ifanc hynny oedd ar fin gwneud dewisiadau pwysig ar gyfer eu dyfodol a'r rhai oedd bellach wedi mudo o'r broydd.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
    Award date2013