Archwilio profiadau bywyd ac anghenion unigolion sy’n rhoi gofal yng Ngogledd Cymru er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystyron gwahanol weithgareddau gofalu a’u heffaith ar hunaniaeth unigolion sy’n rhoi gofal.

Electronic versions

Documents

    Research areas

  • Gofalwyr di- dâl; Ystyron rhoi gofal;, Hunaniaeth unigolion sy’n rhoi gofal, Twlcit model hunaniaeth gofalwr

Abstract

Mae’r ymchwilio yn archwilio profiadau bywyd gofalwyr di-dâl. Canfu ymchwil bod dau o bob pump (40%) o unigolion sy’n rhoi gofal di-dâl yng Nghymru yn teimlo heb reolaeth a 72% o ofalwyr heb gael unrhyw seibiant o'u rôl gofalu yn ystod y pandemig Covid-19 (Carers uk, 2022). Roedd mwyafrif yn teimlo; cael eu hnwybyddu a phrofi diffyg cydnabyddiaeth gan weithwyr iechyd, gofal a gwaith cymdeithasol (Burrows et al 2021:70).

Mae’r ymchwil yn archwilio mewn dyfnder i’r bwlch mewn gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol ar hunan adnabod hunaniaeth unigolion sy’n rhoi gofal ac asesiadau unigryw wedi’u teilwra ar gyfer gofalwyr di-dâl.
Nod yr ymchwil yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ystyron gwahanol weithgareddau gofalu a’u heffaith ar hunaniaeth unigolion sy’n rhoi gofal.

Amcanion yr ymchwil yw: archwilio profiadau bywyd ac anghenion gofalwyr. Adnabod ac egluro hunaniaeth gofalwyr a deall ystyron gwahanol weithgareddau gofalu a Thrafod yr allbynnau mewn perthynas â lledaenu gwybodaeth a dealltwriaeth o brofiadau amrywiol gofalwyr dros amser a chyflwyno adnoddau addas i gefnogi asesiad gofalwyr.

Cynhaliwyd 13 o gyfweliadau dwfn wedi’u sylfaenu ar y model seiliedig; 11 merch a 2 ddyn o ystod oedran 50- 70’au. Casglwyd data cyfoethog, nid cyffredinoli oedd y bwriad ond dadansoddi profiadau bywyd unigolion sy’n rhoi gofal.

Mae canfyddiadau’r ymchwil yn arddangos y themâu canlynol:
Mabwysiadu hunaniaeth neu wrthod teitl, label gofalwr; rhesymau dros ofalu: cyfrifoldeb, dyletswydd, euogrwydd; newid yn y berthynas rhwng y gofalwr a’r unigolyn y gofalir amdano; newid mewn patrwm bywyd y gofalwr e.e. newid mewn
rôl gymdeithasol, gwaith, perthynas, bywyd cymdeithasol; effaith ar lesiant gwahanol y gofalwr.

Mae argymhellion yr ymchwil yn awgrymu:
Cyfrannu i wybodaeth a dealltwriaeth o sefyllfa gymhleth hunan adnabod fel gofalwr trwy ddatblygu model hunaniaeth gofalwr. Mae model hunaniaeth gofalwr yn amlygu mathau gwahanol o ofalwr: Gofalwr annibynnol; Gofalwr achlysurol ‘galw heibio’; Gofalwr cyson; Gofalwr wedi’i drochi; Gofalwr wedi difreinio a Gofalwr colledig cudd.

Mae’r model yn rhoi statws cydradd i’r gofalwr a’r unigolyn y gofalir amdano, blaenoriaethu a thargedu’r gofalwr (Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014). Mae’r model yn cyflwyno triongl asesiadau wedi’u teilwra i sefyllfa arbennig yr unigolyn sy’n rhoi gofal sef: Asesiad risg; Asesiad adfer a chynnal ac Asesiad argyfwng. Bwriad model hunaniaeth gofalwr yn cyflwyno triongl asesu unigolion sy’n rhoi gofal, gan asesu eu hanghenion er mwyn lleihau risg, trwy greu pecyn gofal a chefnogaeth bwrpasol unigryw iddynt sef cynllun: ataliol; adfer a chynnal a dwys. Cyflwynir twlcit fodel hunaniaeth gofalwr er mwyn hyfforddi gweithwyr proffesiynol dyfeisgar a chwilfrydig i asesu, dadansoddi a gwerthuso profiadau bywyd unigolion sy’n rhoi gofal.

Bwriedir dylanwadu ar bolisi ac ymarfer iechyd a gofal gwaith cymdeithasol trwy: Ledaenu canfyddiadau’r ymchwil er mwyn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth a bwydo mewn i “Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl” i wella asesiadau gofalwyr wrth “ddatblygu rhagor o adnoddau hyfforddi a gwybodaeth, Cynyddu ymwybyddiaeth o anghenion gofalwyr a'r rôl ofalu. Cefnogi gofalwyr di-dâl i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.” (Llywodraeth Cymru Mawrth 2021)

Bwriedir dylanwadu ar ymarfer iechyd a gofal gwaith cymdeithasol trwy: Mabwysiadu model hunaniaeth gofalwr i ddatblygu a chryfhau asesiadau “beth sy’n bwysig?” Yn ogystal bwriedir datblygu adnoddau, hyfforddiant ar gyfer gweithlu ymarfer iechyd, gofal a gwaith cymdeithasol. Mae’r model yn adlewyrchu a chefnogi'r “angen datblygu model ymyrraeth gan wasanaethau cymdeithasol i’w gynnig yn rhan o gynllun gofal yn dilyn asesiad gofalwr (Burrows et al 2021:66).

Details

Translated title of the thesisResearch exploring the life experiences of caregivers in North Wales to develop knowledge and understanding of carers' identity : i) Adnabod ac egluro hunaniaeth gofalwyr. ii) Archwilio natur hunaniaeth a phrofiadau bywyd gofalwyr. iii) Lledaenu gwybodaeth a dealltwriaeth o brofiadau amrywiol gofalwyr dros amser a chyflwyno adnoddau addas i gefnogi asesiad gofalwyr ar lefel unigol a chynllunio cefnogaeth ar gyfer gofalwyr ar lefel strategol.
Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Award date11 Apr 2024