Arfarniad o ddulliau dysgu ac addysgu yng nghyd-destun addysg uwchradd ddwyieithog

Electronic versions

Documents

  • Cen Williams

Abstract

Cyd-destun y thesis hwn yw 'r dulliau addysgu a dysgu a ddefuyddir gan athrawon ysgolion uwchradd Gwynedd. Canolbwyntiwyd yn bennaf ar flynyddoedd 7-9 gan mai yn y blynyddoedd hynny y mae polisi iaith y Sir, sy'n annog dwyieithrwydd 0 fewnpwnc, yn fwyaf arwyddocaol, ac yn rhydd 0 ymyrraeth allanol. Mae addysg uwchradd ddwyieithog yn golygu llawer mwy na dysgu trwy gyfrwng dwy iaith;rhaid edrych ar yr holl newidynnau sy'n rhan o'r sefyllfa; - iaith y disgyblion, cyfrwng y dysgu, iaith y deunydd, cytbwysedd ieithyddol ar draws y pynciau ac 0 fewn pwnc. Ar sail theori ac ymchwiliadau blaenorol cychwynnwyd o'r cynsail fod y defuydd a wneir mewn dosbarth o'r moddau iaith, yn hybu dealItwriaeth bynciol yn ogystal a datblygu'r iaith a ddefuyddir. O'r herwydd manylwyd ar y defuydd ohonynt mewn sefyllfaoedd dysgu uniaith a dwyieithog. Canolbwyntiwyd yn ystod y ddau gyfuod arsylwi ar ral yr athro 0 fewn ysefyllfaoedd dysgu hynny gan fod pwrpas ymarferol yn ogystal ag academaidd i'r ymchwil; sefllunio Pecyn H.M.S. y byddai modd ei ddefnyddio i annog adfyfyrio ar ranyr athrawon, a thrafodaethau adrannol a fyddai'n arwain at lunio neu newid polisiau'r adran. Y n ystod y cyfuod arsylwi cyntaf, dilynwyd dosbarthiadau neu unigolion amddyddiau cyfan gan arsylwi ym mhob gwers. Dewiswyd dosbarthiadau uniaithGymraeg alneu dwyieithog 0 fewn ysgolion a chasglwyd data trwy lunio nodiadaumanwl. Y n ystod yr ail gyfuod defnyddiwyd camera i gofnodi'r data fel y geUid eiddadansoddi'n fanylach wrth ganolbwyntio ar ansawdd y dysgu a'r addysgu ac roeddid yn chwilio am sefyllfaoedd penodol a oedd yn arwyddocaol 0 safbwynt eu cyd-destunieithyddol neu'r fethodoleg ddysgu a ddefnyddid. Oblygiadau ymarferol i athrawon yw mwyafrif y canlyniadau er bod un dosbarth yn canolbwyntio ar beth ellid ei wneud yn genedlaethol i hyrwyddo datblygiaddwyieithog.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
    Award dateApr 1994