Cadw a chynnal athrawon o fewn y proffesiwn: archwiliad o'r hyn sydd angen ei feithrin mewn darpar athrawon a'i gynnal trwy gydol gyrfa yn y byd addysg

Electronic versions

Abstract

Honnir gan sawl ymchwil bod athrawon ledled y byd yn gadael y proffesiwn un ai yn fuan yn eu gyrfa neu’n ymddeol yn gynnar iawn (Harrison, Newman & Roth, 2006; Perrachione, Rosser & Petersen, 2008; Dolton & Van der Klaauw, 1995). Roedd yr astudiaeth hon yn ceisio adnabod pa elfennau sydd yn cyfrannu at ddycnwch athrawon, creu a chyflwyno ymyriad ac yna adnabod pa ffactorau sydd yn sicrhau bod athrawon yn gadael neu'n aros yn y proffesiwn. Y bwriad yn y pen draw oedd bwydo'r wybodaeth i raglenni addysg gychwynnol athrawon CaBan. Yn seiliedig ar adolygiad llenyddol o'r maes, penderfynwyd cynnal ymchwil a fyddai’n ystyried a yw dycnwch a hunan-effeithiolrwydd unigolyn yn effeithio ar barhad athrawon yn y proffesiwn a sut y gellid meithrin a datblygu’r nodweddion hynny yn y myfyrwyr sydd yn paratoi i fod yn athrawon ar y cyrsiau TAR Cynradd a PGCE Primary. Roedd dau ran i’r ymchwil: (1) creu, cynnal a gwerthuso ymyriad oedd wedi’i dargedu’n benodol i ddatblygu dycnwch darpar athrawon gan ddilyn cynllun cyn prawf - ymyriad - ôl-brawf. Rhannwyd y cyfranogwyr yn ddau grŵp - arbrofol (23) a rheoli (24) a chynhaliwyd cyfres o 4 sesiwn 90 munud o hyd gyda'r grŵp arbrofol. Ac yna (2), cynnal cyfweliadau gyda sampl o athrawon (10) oedd un ai wedi gadael neu wedi parhau yn y proffesiwn er mwyn llawn ddeall y rhesymau a deall yn ogystal pa ffactorau oedd yn allweddol ar gyfer parhau. O ddadansoddi'r data, dengys yr astudiaeth ymchwil bod ffactorau mewnol gwarchodol athrawon unigol a ffactorau cyd-destunol gwarchodol yn eu bywyd gwaith yn gallu cael ardrawiad ar eu parhad yn y proffesiwn addysgu yn yr 21ain ganrif a datblygu eu dycnwch a'u hunan- effeithiolrwydd yn y swydd. Wrth ddatblygu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon mae angen cyflwyno a sicrhau ymwybyddiaeth o'r elfennau hynny a'u datblygu trwy gydol gyrfa athro. Mae angen yn ogystal ymchwil pellach i ystyried y berthynas rhwng agwedd athrawon tuag at berffeithrwydd a pherthynas hynny â straen athrawon.

Details

Translated title of the thesisRetaining and supporting teachers within the profession: a study of what needs to be nurtured in trainee teachers and developed throughout their careers in the profession.
Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
Award date19 Jul 2022