Cofi-spik : ethnograffeg o iaith a hunaniaeth yng Nghaernarfon

Electronic versions

Documents

  • Frances Elizabeth Shaw

Abstract

Ethnograffeg o iaith yng Nghaernarfon, Gwynedd yw’r astudiaeth hon sy’n edrych ar ymarferion iaith Cymraeg a Saesneg y trigolion mewn cydarweithiau a pharthau amryfal. Cychwynna’r traethawd drwy archwilio’r anghydfod presennol sy’n amgylchynu’r dull ymchwil, rôl yr ethnograffydd a gosod ethnograffeg ieithyddol yng nghyd-destun anthropoleg gymdeithasol. Cyweiniwyd y data drwy holiaduron, cyfweliadau ac arsylliadau a defnyddiwyd dogfennau i’w gefnogi a’i gyfoethogi. Generadwyd data maintiolus o’r holiaduron a’r arsylliadau a data ansoddol o’r cyfweliadau. Dadlennodd y data maintiolus hyder uchel ymysg yr hysbyswyr wrth siarad Cymraeg sy’n gostwng yn sylweddol yn y cyfrwng darllen a’r cyfrwng ysgrifennu. Ffafria’r mwyafrif wneud hynny drwy gyfrwng y Saesneg. Adlewyrchiad yw hyn o’u diffyg hyder i ddefnyddio’r Gymraeg cywrain.1 Dangosodd yr ymchwil nad yw cymuned Caernarfon mor homogenaidd ag y’i portreadir yng Nghyfrifiad 2001. Nodwyd bod strwythur cymdeithasol yr ardal yn cael ei ddiffinio gan yr iaith a ddefnyddia’r brodorion. Creda’r hysbyswyr bod gwybodaeth o’r Gymraeg cywrain yn angenrheidiol gogyfer â swyddi da; i’r gwrthwyneb bod anwybodaeth ohoni yn llesteirio symudoledd cymdeithasol a chyfleoedd cyflogaeth. Cesglir bod deddfu iaith y Sir ar y cyfan yn aneffeithlon. Rhyddfreinia’r dosbarth canol sy’n meddu Cymraeg cywrain gan ddadryddfreinio’r dosbarth gweithiol sy’n siarad Cod cyfyngedig2 y Cofi ac yn defnyddio’r Saesneg cywrain fel cyfrwng rhagosodedig mewn cyd-destunau ffurfiol. Diddwythid nad yw S4C yn berthnasol i fwyafrif o bobl Caernarfon oherwydd natur y rhaglenni a’r iaith a ddefnyddir ynddynt. Ar ben hynny, bydd yr hysbyswyr yn dueddol o wrando ar gerddoriaeth gyfoes Saesneg. Eto, byddant yn rhwydweithio’n gymdeithasol ar y we ac yn tecstio ar eu ffonau yng nghod cyfyngedig y Cofi.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Bangor University
Supervisors/Advisors
    Award dateJan 2012