Cymdeithaseg cyfieithu : dylanwad cyfieithu ar y pryd ar y defnydd o'r Gymraeg yng Ngwynedd

Electronic versions

Documents

  • Judith Kaufmann

Abstract

Gyda'r traethawd hwn, dygir at ei gilydd ddau faes ymchwil sy'n ymdrin a chynllunio iaith leiafrifol. 0 safbwynt astudiaethau cyfieithu, trafodir dylanwad cyfieithu (cyfieithu ar y pryd yn benodol) ar y defnydd o'r Gymraeg. Yn ogystal a hyn, trafodir ystyriaethau cymdeithasol o fewn maes cynllunio ieithyddol sy'n allweddol wrth geisio annog lleiafrifoedd ieithyddol i siarad eu hiaith. Yn rhan gyntaf y traethawd trafodir datblygiad gwasanaethau cyfieithu yng Nghymru, yn rhan o ymdrech i gryfhau'r Gymraeg ym mywyd beunyddiol e1 siaradwyr. Yn gefndir damcaniaethol i'r astudiaeth cyflwynir syniadau o ddisgyblaethau ymchwil cymdeithaseg iaith a chynllunio ieithyddol. Mae'r rhain yn esbonio cysyniadau cyffredin a ddefnyddir wrth drafod lleiafrifoedd ieithyddol. Maent hefyd yn profi dilysrwydd astudiaethau cyfieithu fel maes ymchwil yng nghyd-destun lleiafrifoedd ieithyddol. Trafodir rhychwant o ddamcaniaethau cyfoes ynghylch dwyieithrwydd, hawliau iaith a phwysigrwydd deall y berthynas gymdeithasol rhwng siaradwyr dwy iaith, cyn mynd ymlaen i s611 am hunaniaeth leiafrifol, ac yn benodol, hunaniaeth Gymraeg yng Nghymru. Ceir hefyd ymdriniaeth a chysyniadau cynllunio ieithyddol Cymru, megis hyder ieithyddol, <lewis iaith a defnydd iaith, a cheir trafodaeth am bwysigrwydd Bro Gymraeg. Mae ail ran y traethawd yn gyflwyniad o'r ymchwil maes mewn cyfarfodydd amrywiol yng Ngwynedd. Astudiwyd effaith cyfieithu ar y pryd ar agweddau iaith, ar hyder wrth siarad Cymraeg, ar natur ddiwylliannol cyfarfodydd, ac ar y defnydd o'r Gymraeg. Gwnaethpwyd hynny trwy holiaduron, mewn cyfweliadau ac wrth arsylwi ar gyfarfodydd. Rhydd cyfraniadau defnyddwyr gwasanaethau cyfieithu, ymgynghorydd iaith, pennaeth sefydliad cyhoeddus, a chyfieithwyr ddarlun cynhwysfawr o agweddau tuag at gyfieithu. Mae'r canlyniadau yn amrywiol, gan bwysleisio nad oes patrwm unffurf i'w weld wrth bwyso a mesur effaith cyfieitbu ar ddefnydd iaith. Yn fyr, dibynna ei ddylanwad ar fath y cyfarfod, math y grwp a'r drafodaeth, y lleoliad, nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, yn ogystal ag arfer unigolion wrth ddefnyddio cyfieithu ac wrth siarad Cymraeg yn gyhoeddus. At ei gilydd, dengys yr astudiaeth fod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd, o'i gynllunio'n ofalus, yn cael effaith gadarnhaol ar y defnydd o'r Gymraeg mewn cyfarfod. Gall lledaenu arfer da ynghyd a mabwysiadu polisfau cyfieithu cyffredinol, ategu'r Iles a ddaw o ddefnyddio cyfieithu mewn cyfarfodydd lie na fyddai'r Gymraeg yn gallu cystadlu yn erbyn y Saesneg fel arall.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
    Award dateAug 2009