Datblygiad addysg crefft yn ysgolion Cymru hyd at 1966
Electronic versions
Documents
88 MB, PDF document
Abstract
Mae ' r astudiaeth yn olrhain datblygiad Addysg Crefft yn ysgolion Cymru hyd at y flwyddyn 1966. Yn y rhan gyntaf canolbwyntir ar yr arloesi yn y siroedd mwyaf blaengar gan ddilyn y ddarpariaeth - yn yr ysgolion canolradd, yr ysgolion elfennol a'r canolfannau.
Rhoddwyd sylw i'r Dull Sloyd gan fanylu ar bresenoldeb athrawon o Gymru ar Gyrsiau Haf Rhyngwladol Naas, Sweden. Canfuwyd i H.R. Reichel, Prifathro cyntaf Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, greu perthynas agos rhwng y gyfundrefn addysg yng Nghymru a Phennaeth Cyrsiau Naas - Otto Salomon.
Gwr arall y bu pwyso a mesur ar ei gyfraniad oedd O.M. Edwards. Yn dilyn yr ymdriniaeth o'i ddamcaniaethau addysgol, mentrwyd awgrymu mai yn naw degau'r ganrif bresennol efallai y gwireddir breuddwyd O.M. Edwards, ac y gwelwn benllanw deffroad technegol y gyfundrefn addysg Gymreig.
Yn yr ail ran bu'r pwyslais ar ddatblygiad yr athroniaeth
a'r dulliau dysgu, ac amlygwyd y gogrdroi a fu parthed amcanion
sylfaenol y pwnc . Daethpwyd i ' r casgliad fad cynsail athroniaeth
addysg yr arlwy gyfoes yn nogfen y Bwrdd Addysg 'Suggestions
for Teachers ' a gyhoeddwyd yn 1922 . Dro ar 61 tro canfuwyd
adlais rhwng y gorffennol a'r presennol, megis rhwng cynllun
y canolfannau a system canolfannau ADAG ein dyddiau ni; Cwrs
Gwaith Coed Ysgafn Henry Bedford, Abergele, a gweithgaredd
awgrymiedig y cwrs Dylunio cyfoes yn yr ysgolion cynradd;
cydberthynu a Gwyddoniaeth, gyda'r gweithgaredd yn ymdebygu
i ' r arbrofi presennol rhwng Adrannau Crefft a Gwyddoniaeth yr
ysgolion uwchradd .
Gweinyddwyd yr arholiadau Hyfforddiant Llaw cyntaf yn 1899,
a thrwy gydol yr astudiaeth manylwyd yn gyfnodol ar ystadegaeth
yr arholiadau . 0 ganlyniad, amlygwyd datblygiad a chymeriad
yr arlwy ymarferol, ac fe gefnogwyd barn barhaol yr awdur, sef
bod tuedd yn ystod cyfnod yr astudiaeth i gysylltu pynciau
ymarferol a chwrs addysg y disgyblion llai galluog yn ogystal
a dosbarth cymdeithasol arbennig.

Details
Original language | Welsh |
---|---|
Awarding Institution | |
Supervisors/Advisors | |
Award date | 1988 |