Dechreuadau a gweithgarwch cynnar John Jones (Myrddin Fardd)
Electronic versions
Documents
71.4 MB, PDF document
Abstract
Yn y traethawd hwn, ymdrinnir a dechreuadau a gweithgarwch cynnar John Jones (Myrddin Fardd), un o'r hynafiaethwyr mwyaf brwd a gweithgar a welodd Cymru erioed. Ni chafodd ei lafur caled y sylw dyledus yn ystod ei oes faith a phrin, mewn gwirionedd, yw'r deunydd cyhoeddedig sydd ar gael amdano.
Ymgais yw'r gwaith hwn, felly, i wneud iawn am hyn.
Prif nod y traethawd yw rhoi sylw i weithgarwch hynafiaethol, barddol a llenyddol Myrddin yn ystod ei flynyddoedd cynnar hyd at 1871. Ar gychwyn y bennod gyntaf, canolbwyntir ar fagwraeth ac addysg Myrddin a'i frawd iau, Owen Jones (Mannoethwy), ym Mynytho, Llŷn, gan gyfeirio hefyd at achau a
chrefydd y teulu. Eir ymlaen wedyn i fanylu ar yr hyfforddiant pur wahanol a gafodd y ddau frawd wedi i'w dyddiau yn Ysgol Y Foel Gron, Mynytho, ddod i ben, a'r llwybrau galwedigaethol a droediwyd ganddynt.
Yn yr ail bennod, dechreuir trwy roi sylw i'r amrywiol ddoniau a etifeddwyd gan Myrddin ac Owen ac ymdrinnir â'u campau ym meysydd cynganeddu, arlunio a cherddoriaeth. Sonnir wedyn am y digwyddiad a newidiodd gwrs bywyd y ddau, sef dyfodiad Daniel Silvan Evans i blwyf Llangian, a neilltuir llawer o'r
bennod i drin a thrafod y berthynas hynafiaethol arbennig a fu rhwng y tri, a'r modd y dylanwadwyd ar y ddau frawd gan Silvan. Cyfeirir hefyd at ddylanwad cymdeithas y chwarel ar Myrddin a rhoddir cryn sylw i'r dylanwad digamsyniol a gafodd Owen yntau amo a'r gefnogaeth amhrisiadwy a roddodd iddo yn
ystod blynyddoedd eu hieuenctid.
Canolbwyntir yn gyfan gwbl yn y drydedd bennod ar farddoniaeth Myrddin a hynt a helynt ei gyfuod o weithgarwch barddol. Ceisir dangos ar gychwyn y bennod pa ddylanwad a gafodd cynnyrch barddol Silvan ar gerddi Myrddin a chymherir gwaith y ddau o ran cynnwys, arddull a safon. Yna eir ati i bwyso a mesur gwir werth barddoniaeth Myrddin a rhoddir sylw i'w ymdriniaeth ynddi o grefydd, natur, serch, marwolaeth, cariad at fro ac yn y blaen. Cyfeirir hefyd at berthynas gythryblus Myrddin a rhai o feirniaid eisteddfodol yr oes a'r prif
siomedigaethau a ddaeth i'w ran fel cystadleuydd.
Yn y bennod olaf, trafodir Myrddin yr hynafi.aethydd a cheisir dangos ei gyfraniad clodwiw i hynafiaethau Cymru rhwng 1858 ac 1871. Manylir ar ei brif gysylltiadau hynafiaethol, dynion hynod megis Edward Breese a Richard Lloyd, a thynnir sylw at eu dulliau rhwydweithio a'u cefuogaeth gadrn i'w gilydd. Sonnir wedyn am gyfraniad allweddol Myrddin ac Owen i gylchgronau a phapurau newydd y cyfuod, megis Y Brython a Golud yr Oes, gan geisio tafoli gwerth ac arwyddocâd y cynnyrch yng ngwasg gyfuodol Gymraeg y dydd. Terfynir trwy
dynnu sylw at bwysigrwydd cyfraniad Myrddin i'r maes hynafiaethol yng Nghymru a'r diffyg cydnabyddiaeth a roddwyd i'r cymwynaswr mawr hwn yn ei oes ei hun.

Details
Original language | Welsh |
---|---|
Awarding Institution | |
Supervisors/Advisors | |
Award date | 2007 |