Dylanwad diwygiadaeth Charles Finney ar ddiwygiad 1858-60 yng Nghymru

Electronic versions

Documents

  • Dyfed Wyn Roberts

Abstract

Cynhyrfwyd Cymru gyfan gan ddiwygiad crefyddol grymus yn 1858-60, ac
amcangyfrifir i 100,000 o bobl gael eu dychwelyd at grefydd drwyddo. Mewn
oedfaon ar hyd a lied y wlad daeth pobl i sylweddoli eu hangen ysbrydol a
chyflwynasant eu bywyd i Iesu Grist. Rhoddodd hyn gyfeiriad newydd 1
unigolion, nerth newydd i eglwysi, a chyfnewidiad moesol i gymdeithas.
Yn greiddiol i'r symudiad hwn oedd syniadau'r efengylydd
Arnericanaidd Charles Finney. Datblygwyd dulliau newydd o hybu adfywiadau
crefyddol o dan ei weinidogaeth yn banner cyntaf y bedarwedd ganrif ar
bymtheg a daethant yn boblogaidd yng Nghymru wrth i'w ddarlithiau gael eu
cyhoeddi yn Gymraeg. Ond er mwyn i'r syniadau hyn gael derbyniad gwresog
roedd yn rhaid i Yrnneilltuwyr Cymru newid eu pwyslais diwinyddol yn gyntaf.
Dyna ddigwyddodd dan arweinaid pobl fel John Roberts, Llanbrynmair, a
chymedrolwyd yr hen system Galfnaidd draddodiadol.
0 dan arweiniad gweiniodgion fel Thomas Aubrey croesawodd eglwysi
Cymru y moddion diwygiadol newydd, a phrofwyd cryn lwyddiant wrth eu
hymarfer. Pan ddychwelodd Humphrey Jones adref o America yn haf 1858
roedd yr eglwysi yn ysu am adfywiad newydd, a defnyddiwyd ef i danio' r
diwygiad hwn. Ymunodd Dafydd Morgan, Ysbyty Ystwyth, ag ef, a than
arweiniad y ddau'n defnyddio'r moddion diwygiadol ymledodd yr adfywiad
drwy'r wlad. Gwreiddiodd diwygiadaeth yn ddyfn yn naear yrnneilltuol Cymru,
ac er bod ambell un yn arnheus o'r dulliau, gwelir bod y system newydd yn
parhau i fod yn rhan o fywyd yr eglwysi erbyn canol yr 1880au

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
  • University of Wales, Bangor
Supervisors/Advisors
  • Densil Morgan (Supervisor)
Thesis sponsors
  • James Pantyfedwen Trust
Award date2005