Dysgu Cymraeg rhwng 1847 a 1927

Electronic versions

Documents

  • Gwilym Arthur Jones

Abstract

Craidd y thesis yw mai ymdrech unigolion o fewn cyfundrefn wladol ddysgwyr a fu'n cynnal dysgu Cymraeg yn ystod y pedwar ugain mlynedd rhwng 1847 a 1927. Cydnabyddir i rai fod wrthi'n ddiarbed fwriadus yn ceisio argyhoeddi a gwyrdroi ymagweddu dilornus o fewn gweinyddiaeth nad ystyriai fod i'r iaith rym ystadegol. Ymledodd dylanwadau y Diwygiad Methodistaidd y tu hwnt i ffiniau crefydd gan anadlu bywyd newydd i iaith a diwylliant. Datblygodd agweddau o foesgarwch a pharchusrwydd, daeth mudiadau diwylliannol i fod a chreu ethos cymdeithasol. Oni bai am hyn prin y gellid fod wedi gwarchod, heb sôn am feithrin, dysgu Cymraeg yn ystod y newid anorfod a achoswyd gan y Chwyldro Diwydiannol. Daethpwyd i gysylltu’r iaith fwy-fwy â chrefydd a llenyddiaeth na thybid fod a wnelont, mewn gwirionedd ddim â bywyd fel yr oedd. Mentrodd rhai gwŷr llên y tu allan i'w priod feysydd a chynhyrchu toreth o gylchgronau, llyfrau a chyfarwyddiadau i ddiwallu gwanc gwerin uniaith am wybodaeth. Eithr ymdrechion mympwyol a fu llawer ohonynt gan nad oedd mewn bod brifysgol i lunio a safoni canonau beirniadaeth. Nid bod y werin hithau yn orbryderus oblegid fe gydnabyddid na ellid newid cyfundrefn heb newid agweddau. Bu gwaith rhai arolygwyr ac athrawon yng nghydiad y ganrif yn symbyliad a chymorth i leddfu peth ar waddol yr anobaith a oroesodd ddyddiau arolygiaeth y Cod Diwygiedig. Eithr pan geid rhagolygon am well darpariaeth llesteirid y cyfan gan ryfeloedd a dirwasgiadau economaidd celyd. Gyda sefydlu'r Adran Gymreig a phenodi gweinyddwyr a fyddai'n barod i gefnogi polisïau a allai hyrwyddo dysgu Cymraeg trwy'r wlad benbaladr, lluniwyd meysydd llafur a weddai ar gyfer sefyllfaoedd ieithyddol y gwahanol siroedd. Argoelai'n dda ond y paradocs yw na dderbyniasai pob athro mo'r awgrymiadau (y ceir trafodaeth arnynt), chwaethach fyth eu gweithredu. Yr oedd eithriadau gwiw o athrawon cwbl ymroddedig a lwyddodd i adael eu hôl ar genedlaethau o blant ond cafodd blynyddoedd
o gyflyru Seisnig ormod o afael arnynt gan greu paradocs o fewn paradocs. Ni feddent na'r ewyllys na'r egni i newid ac nid oedd eu bywydau ond megis cysgodion o'r hyn a ddisgrifiasai H.A.L. Fisher fel ‘the immemorial melancholy of an aggrieved people'.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
  • University of Wales, Bangor
Supervisors/Advisors
    Award date10 Jan 1978