Ehangu'r defnydd o'r Gymraeg mewn addysg ol-orfodol

Electronic versions

Documents

  • Elsie C. Reynolds

Abstract

Datblygodd yr ymchwil hwn o ganlyniad i niter o ffactorau, y cyfan yn ymwneud a'r angen i ehangu cyfleoedd i fyfyrwyr yn y sector 61-orfodol i astudio'u cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog. Ymchwiliwyd i addysg ddwyieithog a dwyieithrwydd mewn addysg yng Nghymru er mwyn adnabod yr elfennau hanesyddol, traddodiadol ac addysgiadol a berthynai i ddysgu'r Gymraeg fel iaith a defnyddio'r iaith i addysgu. Canfuwyd mai ychydig a fedrai fanteisio ar gyfleoedd i ddewis cyfrwng Cymraeg i'w hastudiaethau yn y sector ol-orfodol. (Pen nod 1) Rhagdybiwyd y byddai modd ehangu'r defnydd o'r Gymraeg yn y sector hwnnw o gynllunio'n fwriadus i gefnogi'r gweithlu i ddarparu yn ddwyieithog. Cynlluniwyd sesiynau i ddatblygu addysgwyr i fabwysiadu'r Gymraeg yn eu haddysgu ac i ymateb i anghenion a thargedau Cynlluniau laith sefydliadol. Rhagdybiwyd y byddai hyn yn cynyddu'r cyfleoedd i ddysgwyr y sefydliad astudio o leiaf elfennau o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyn ymgymryd a'r hyfforddiant ymchwiliwyd i ddamcaniaethau dysg mewn perthynas a hyfforddi oedolion, oedolion yn y cyswllt hwn oedd yn addysgwyr proffesiynol. Perthnaswyd y damcaniaethau cyffredinol i addysg ddwyieithog a thrafodwyd methodolegau yn ymwneud a'r defnydd o ddwy iaith mewn addysg. (Penodau 2, 3) Ymchwiliwyd i fethodoleg ymchwil er mwyn darganfod y dulliau mwyaf pwrpasol i archwilio'r rhagdybiaeth y gellid ehangu'r defnydd o'r Gymraeg mewn addysg trwy gynllun datblygu a hyfforddiant mewn sefydliad addysgol (Penned 4). Er mwyn adnabod anghenion penodol y gellid ymateb iddynt penderfynwyd canolbwyntio ar un sir benodol a gwnaed arolwg o'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
ol-orfodol. 0 ganlyniad i'r arolwg cynlluniwyd rhaglen Oatblygiad Proffesiynol Parhaus (OPP) (Pennod 5) . Trwy drafodaethau gyda'r addysgwyr a fynychodd y sesiynau canfuwyd bod angen cychwyn gyda chyflwyniad i anghenion cynllun iaith a chynllunio ieithyddol ac i gefnogi'r addysgwyr i adnabod eu cyfrifoldebau parthed cynlluniau iaith. Adnabuwyd angen hyfforddiant ymwybyddiaeth a sensitifrwydd iaith a dulliau hyrwyddo dwyieithrwydd mewn sefydliadau addysgol. Gwelwyd yr her i ddefnyddio'r ddwy iaith ar lefel uchel, hynny yw dysgu, ysgrifennu, darparu adnoddau a chyflwyno yn rhugl a hyderus, yn ogystal a rheoli addysg ddwyieithog. (Pennod 6) Cynlluniwyd a darparwyd hyfforddiant i'r addysgwyr a phrofodd yr ymchwil bod gwir angen rhaglen OPP yn y maes. Cadarnhawyd fad y math hwn o hyfforddiant yn bwysig ac roedd y cyfranogwyr yn werthfawrogol o'r cyfle, nid yn unig i dderbyn yr hyfforddiant, and i gydweithio, rhannu profiadau a mentora addysgwyr eraill. Llwyddwyd i ehangu'r defnydd o'r Gymraeg, and llawn bwysiced oedd y ffaith bod pob addysgwr wedi cael y cyfle i dderbyn hyfforddiant perthnasol i'w anghenion personal, trwy gyfrwng y Gymraeg. 0 ganlyniad i'r gefnogaeth roeddent all yn medru cyfrannu at gyflawni targedau'r Cynllun laith sefydliadol. 0 fabwysiadu fframwaith strategol gellir adeiladu ar yr hyn a wnaed. Gellir cynyddu cyfleoedd i ddysgwyr fanteisio ar addysg ddwyieithog yn sylweddol mewn meysydd lie nad oes eisoes gyfle ganddynt. Ni ragwelir unrhyw reswm pam na all cynllun o'r fath, o'i addasu, gefnogi sectorau addysgol a chyhoeddus eraill i ddatblygu defnydd o'r Gymraeg. Amcan bwriadol yr astudiaeth hon oedd ehangu'r defnydd o'r Gymraeg lie na wnaed defnydd ohoni, gan wneud hynny trwy raglen OPP. Y ddelfryd yn ddi-os yw sicrhau addysgwyr a grwpiau hyfyw cyfrwng Cymraeg er mwyn sicrhau dyfnder ieithyddol ac ansawdd addysgol cyfrwng Cymraeg. Er defnyddio'r ddwy iaith yn gadarnhaol, yn fwriadus ac yn llwyddiannus, gwelwyd mai'r Gymraeg oedd y gwannaf o'r ddwy iaith ym mhob sesiwn a gynlluniwyd ac a gyflwynwyd gan yr addysgwyr. Amlygwyd prinder dybryd adnoddau cyfrwng Cymraeg yn y sector, ofn yr addysgwyr nad yw'r dysgwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o'r pwnc oherwydd eu hanallu yn y Gymraeg a'r ffaith bod pawb yn deall Saesneg fel sialensau i'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg na sy'n bodoli yn y ddarpariaeth cyfrwng Saesneg. (Pennod 7) Datblygodd y cynllun OPP mewn ymateb i anghenion addysgwyr penodol. Gellir ei ddefnyddio i addysgu gweithlu am ystyr dwyieithrwydd, am addysg Gymraeg a dwyieithog, am ymwybyddiaeth iaith ac addysg, dulliau hyrwyddo dwyieithrwydd o fewn addysg, strategaethau i ddatblygu'r defnydd o'r Gymraeg a damcaniaethau dysgu, addysgu, mentora a rheoli. Ni honnir ei fod yn ddigonol, ond mae'n ddarpariaeth y gellir ei defnyddio'n effeithiol i sicrhau prif-ffrydio'r Gymraeg yn y sector ol-orfodol.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
Supervisors/Advisors
    Award date2007