Geirfa Gymraeg Sir Fflint

Electronic versions

Documents

  • Goronwy Wynne

Abstract

Yn y gwaith hwn cyflwynir astudiaeth o iaith lafar sir Fflint ar ffurf casgliad o ryw 4000 o eiriau sydd, neu a fu, yn rhan o iaith y sir. Ardal yr astudiaeth yw'r hen sir, cyn yr ad-drefnu ffiniau yn 1974 (ac eithrio Maelor Saesneg).
Ym mhob achos, ceir ymdriniaeth o'r gair gan ddilyn trefn Geiriadur Prifysgol Cymru. Rhoddir elfennau'r gair neu ymdriniaeth o'i darddiad, y rhan ymadrodd, y ffurf luosog a'i ystyr (neu ystyron). Rhoddir diffiniad o bob ystyr. Hefyd, rhoddir enghreifftiau o'r gair ar waith, yn seiliedig ar ffynonellau cyhoeddedig (o weithiau Daniel Owen ymlaen), recordiau o siaradwyr yng nghasgliad Amgueddfa Werin Cymru a chasgliadau eraill, cyfweliadau a siaradwyr heddiw
a phrofiad personal dros nifer fawr o flynyddoedd.
Gwneir sylwadau ar ddosbarthiad geiriau yn ddaearyddol, eu hynganiad, a'r defnydd ohonnynt ar lafar. Nodir pa mor gyffredin yw'r defnydd o'r gair, ynghyd â sylwadau ar y cynnydd neu'r lleihad yn y defnydd ohonno yn ystod yr ugeinfed ganrif lle bo hynny'n berthnasol.
Lle bo hynny'n gymwys, nodir nifer o nodweddion y dafodiaith, e.e. patrymau 'a' neu 'e' yn y goben, llaesu llafariaid mewn geiriau unsill, lleoliad yr acen mewn geiriau benthyg o'r Saesneg, a ffurfiau arbennig ar eiriau cyffredin. Ymdrinir â dylanwad y Saesneg ar yr eirfa a'r gystrawen, a nodir enghreifftiau o eiriau sy'n digwydd mewn enwau lleoedd yn y sir.
Ychydig iawn o sylw a gafodd iaith a thafodoiaith sir Fflint yn y gorffennol. Ymgais yw'r gwaith hwn i unioni peth ar y cam.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
  • University of Wales, Bangor
Supervisors/Advisors
  • Gwyn Thomas (Supervisor)
Award date2004