Golygiad ac astudiaeth destunol o'r llyfr cyfraith yn LIGC, llawysgrif Peniarth 164 (H), ynghyd a'r copiau ohoni yn llawysgrifau Peniarth 278 a Llanstephan 121

Electronic versions

Documents

  • Gwenno Angharad Elias

Abstract

Y mae dwy nod i' r traethawd hwn: I) cyflwyno golygiad o'r fersiwn mwyaf cyflawn o'r testun cyfraith yn llawysgrif Peniarth 164, sef y copi ohono yn llawysgrif Peniarth 278; 2) trafod ffynonellau'r testun trwy ganolbwyntio ar gynghawsedd a thrioedd. Ni thrafodir egwyddorion a phrosesau cyfreithiol.
Disgrifir pob llawysgrif yn unigol, sonnir am rai nodweddion orgraffyddol a
ieithyddol, a thrafodir palaeograffeg y tair llawysgrif yn rhan gyntaf y rhagymadrodd.
Yn yr ail ran cytlwynir astudiaeth destunol. Rhoddir sylw i ddau genre cyfreithiol
arbennig. Ymdrinnir a chynghawsedd y testun mewn perthynas a chynghawsedd Llyfr Iorwerth, Llyfr Cynghawsedd a Llyfr IX Ancient Laws and Institutes of Wales (I 841). Sonnir ychydig am y gynghawsedd sy'n unigryw i'r testun. Eir ymlaen i drafod
trioedd: sut y bu awdur y testun yn addasu trioedd o ffynonellau eraill ac yn
cyfansoddi trioedd newydd. Y n y drydedd ran trafodir awdur y testun gan grynhoi yr hyn a ddysgwyd am ei gefndir ac am ei ffynone llau. Gosodir ei ddefnydd o drioedd a chyngawsedd mewn cyd-destun cyfreithiol a hanesyddol. Yn olaf mentrir ystyried ble, pryd, gan bwy, a pham y cyfansoddwyd y testun.
Cyflwynir golygiad o destun Peniarth 278 gyda darlleniadau amrywiol o' r copi
cynharach yn llawysgrif Llanstephan 121 yn ogystal ag o'r darnau darllenadwy ym Mheniarth 164.
Prif amcan y nodiadau yw dangos y gyfatebiaeth rhwng y testun a thestunau
cyhoeddedig eraill. Dyfynnir y testunau hynny yn helaeth er mwyn hwyluso' r gwaith cymharu. Yn olaf cyflwynir copi o ' r darnau darllenadwy o Beniarth 164.
Fel atodiad cynigir tablau yn dangos tudaleniad Peniruth 164 a'r tudalennau cyfatebol yn Llanstephan 121 a Pheniarth 278. Lluniwyd tab) yn dangos y berthynas rhwng y testun a llawysgrif Z. Dengys y conspectws y gyfatebiaeth rhwng y testun a'r testunau cyhoeddedig erai ll.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
  • University of Wales, Bangor
Supervisors/Advisors
    Award date2007