Golygiad o dri fersiwn o Madwaith Hen Gyrys o Iâl ynghyd ag astudiaeth o'u ffynonellau a rhagarweiniad i'r traddodiad paremiolegol yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesau Canol

Electronic versions

Documents

  • Richard Glyn Roberts

Abstract

Ceir yma olygiad o dri chasgliad o ddiarhebion Cymraeg, y ddau gyntaf o lawysgrif Coleg yr Iesu 111 (c. 1400) a'r trydydd o lawysgrif Peniarth 155 sy'n cynnwys copi o gasgliad a luniwyd gan y bardd Gruffudd Hiraethog. Yn draddodiadol priodolir y diarhebion hyn i'r Hen Gyrys o Ifil.
Dangosir bod y casgliadau yn ymgorlfori deunydd o sawl ffynhonnell: yr Hengerdd, y Cyfreithiau, diarhebion cydwladol a diarhebion a berthyn i draddodiad mwy lleol. Ni ellir deall dihareb yn annibynnol ar ei chyd-destun a chan hynny ceisir egluro arwyddocad y diarhebion hyn drwy eu cyd-destunoli yn llenyddiaeth y cyfnod a'u cymharu a' r hyn a geir mewn ieithoedd eraill.
Yn y rhagymadrodd ceir ymdriniaeth a swyddogaeth y ddihareb yn llenyddiaeth
Gymraeg yr Oesau Cano! ac yn neilltuol yng ngwaith y beirdd.

Details

Original languageWelsh
Awarding Institution
  • University of Wales, Bangor
Supervisors/Advisors
    Award date2005